Thursday, 8 February 2018

Pam fod darllen er mwyn pleser yn bwysig mewn addysg cynradd?



Wrth edrych nôl ar fy amser yn ysgol gynradd rwy'n cofio mwynhau darllen, ac yn teimlo roeddwn i yn dysgu llawer trwy ddarllen. Rydw i dal yn cofio y storion wnes i ddarllen yn ysgol gynradd a'r neges sydd yn dod gydag er mwyn paratoi'r plant i dyfu lan. Roeddwn i yn darllen yn gyson oherwydd roedd yn orfodol yn ystod amser darllen, ond byddwn i hefyd yn cael gwaith cartref i ddarllen llyfr. Rwy'n ansicr os roedd y strwythur hwn yn gweithio gyda phob plant, oherwydd na roedd yr athro yn gwneud yn siŵr roedd pob plentyn yn darllen y llyfr. Nad roedd pawb yn fy nosbarth yn mwynhau darllen, ac rwy’n creu gwnaeth hyn cael effaith ar ei ddatblygiad llythrennedd.

Wnaeth arolwg o blant ysgol ar gyfer ‘Diwrnod Llyfr Byd’ yn 2002 ddangos roedd bechgyn 15-16 blwydd oed yn gwario 2.3 awr yr wythnos yn darllen am bleser, i gymharu gyda’r 9 awr mae’r bechgyn yn gwario ar gemau cyfrifiadurol yr wythnos. Hefyd roedd y bechgyn yn gwylio 11 awr yr wythnos yn gwylio’r teledu. Ond roedd merched yn treulio fwy amser yn darllen am bleser, sef 4.5 awr yr wythnos. Mae’r canlyniadau hyn yn dangos faint mae technoleg yn cymryd dros fywydau plant, hefyd yn effeithio ei addysg. Ond ar nodyn positif roedd 81% o 11-12 blwydd oed a 76% o 14-16 blwydd oed yn dal darllen am bleser, ond mae’r ystadegyn yn lleihau wrth i’r plant mynd yn henaf, felly mae llai o ddarllen yn cael ei gwneud wrth iddyn nhw dyfu lan, (Clark, C. et al 2006).




Mae athrawon a rhieni yn cael trafferth i gael plant i fwynhau darllen, ac i gael yr eisiau i ddarllen. Os nad yw’r plentyn yn mwynhau darllen mae’n debygol i fod oherwydd nad ydy’r plentyn yn deall ac felly ddim eisiau mynd trwyddo’r siom o beidio deall. Mae’n bwysig i’r athrawon a rhieni i gefnogi’r plentyn er mwyn rhoi’r hyder wrth ddarllen. Mae’r fideo canlynol yn dangos hyn mewn mwy o ddyfnder.

Mae rhieni yn defnyddio gwahanol strwythur er mwyn helpu’r ddysgu sut i ddarllen, ac o ganlyniad fydd y plentyn yn cael pleser wrth ddarllen. Maent yn darllen gyda’r plentyn ac yn cymryd mewn tro i ddarllen, mae hyn yn golygu bydd yn blentyn yn gwrando ar y geiriau a dechrau dysgu’r ystyr tu ôl iddo, ac yna bydd y plentyn yn cael tro ei hun. Mae athrawon hefyd yn defnyddio storion hwyl sydd yn denu’r plentyn er mwyn ddenu nhw i edrych ymlaen at ddarllen. Mae yna filoedd o lyfrau i blant ddarllen, gyda gwahanol gategorïau er mwyn ddenu pob plentyn. Wrth gael profiad yn ysgol gynradd wnes i weld plentyn yn ddewis darllen yn lle chwarae gyda theganau, wrth ofyn pam wnaeth y plentyn ddweud “oherwydd dwi'n hoffi dawnsio ac mae'r llyfr hwn amdano ddawnsio.” Wnaeth hyn ddangos i mi sut gall darllen ddenu fwy o blant os rydym nhw yn darllen amdano dopig maent yn hoffi.


Wrth i’r plentyn cael pleser wrth ddarllen mae’n rhoi sgil hanfodol yn fywyd, sydd i’r gallu i ddarllen ac yn paratoi nhw amdano addysg bellach sydd yn dilyn ar gyfer cael swydd yn y dyfodol. Does dim un dydd yn mynd heibio heb i mi ddarllen ar un adeg o’r dydd, mae’n sgil allweddol iawn, ac rydym yn ei gymryd yn ganiataol. Mae’r sgil newydd yna yn rhoi’r cyfle i’r plentyn cael ystod eang o wybodaeth o wahanol lyfrau, rhai ffeithiol neu ffuglen.




Rhestr Gyfeirio

  • Clark, C. and Rumbold, K., (2006). Reading for Pleasure: A Research Overview. National Literacy Trust.
  • https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/284286/reading_for_pleasure.pdf




4 comments:

  1. Rydw i’n cytuno mae athrawon a rhieni yn cael trafferth i gael plant i fwynhau darllen ac i ddarllen am bleser, ond ydych chi’n meddwl bod nhw yn cael trafferth oherwydd bod yr athrawon yn aseinio plant eu llyfrau darllen yn hytrach na rhoi pŵer i ddewis eu llyfrau darllen eu hunain? Yn ôl Scholastic’s, cwmni sydd yn rhoi cyfle i blant brynu eu llyfrau darllen eu hunain mewn ysgolion, yn dweud, “children are more likely to read the whole book” os yw’n rhywbeth y maen nhw yn eu dewis i ddarllen. Ac yn fy marn i, os does dim diddordeb gyda nhw mewn llyfrau sydd wedi cael ei aseinio iddyn nhw, bydden nhw ddim yn mynd i ddarllen am bleser.

    ReplyDelete
  2. Rwy’n cytuno gyda’r pwynt hwnnw wrth i mi ddysgu o brofiad wrth ofyn i'r plant eu barn mae'n amlwg y byddent yn mwynhau llyfrau sy'n eu diddordeb hwy yn fwy. Mae hyn oherwydd eu bod yn dod yn arfer i ddarllen llyfrau tebyg, ond mae angen gwthio plant i roi cynnig ar bethau gwahanol. Felly, ar y llaw arall, os yw'r athrawon yn rhoi llyfr iddyn nhw o bwnc gwahanol bob wythnos, gall y plentyn ddod o hyd i ddiddordeb newydd. Dywedodd Diane Ravitch, athro addysg ym Mhrifysgol Efrog Newydd, “Kids will pick up things that are trendy and popular,But that’s what you should do in your free time.” (The article, Motoko Rich.)

    ReplyDelete
    Replies
    1. Mae hwnna yn bwynt diddorol, a dwi'n gweld dwy ochr i'r ddadl yma. Rydw i'n cytuno os yw athrawon yn rhoi llyfrau o bwnc gwahanol pob tro, mae hyn yn agor drysau lan i'r plant ddod o hyd i ddiddordeb newydd. Ond ar y llaw arall gall dadlau, maen lan i'r plant o beth maen nhw eisiau ei ddarllen am bleser. Er mwyn cwrdd yn y canol, os byddaf yn athro, byddaf yn aseinio llyfrau darllen i'r plant i ddarllen yn y dosbarth, ond wedyn yn caniatáu i'r plant benthyg llyfrau o'r llyfrgell sydd o ddiddordeb iddyn nhw i allu darllen yn y tŷ. Ac felly wrth agor drysau lan i ddiddordebau newydd gan aseinio llyfrau gan yr athro, gall y pant wedyn defnyddio ei diddordeb newydd i bigo llyfr i ddarllen ar gyfer pleser tu fas i'r dosbarth. Beth yw dy farn di am syniad yma? Wyt ti'n cytuno neu'n anghytuno?

      Delete
  3. Rwy’n cytuno gydag eich syniad Derice, mae’n bwysig cael plant i fwynhau darllen ac rwy’n credu mai gennych chi syniadau da, Diolch am eich cyfraniad.

    ReplyDelete