Gan siarad o brofiad fy hun, rwy'n ymwybodol o bwysigrwydd
agwedd bositif tuag at fathemateg. Pam roeddwn i yn ysgol uwchradd cefais i
athro mathemateg roedd dim ond yr hoffi’r plant yn ei ddosbarth roedd yn deall
mathemateg. Roeddwn I yn ofnus i ofyn am help oherwydd roedd yr athro yng
nghywilydd fi o flaen y dosbarth os roeddwn i wedi cael y cwestiwn yn anghywir.
Roeddwn i'n teimlo'n dwp ac yn ofni gofyn am help, ac o ganlyniadau wnaeth fy
hyder mewn mathemateg gwanhau. Wrth I mi drio cwestiwn caled, byddwn yn
teimlo'n amharod i roi cynnig arni gan fy mod wedi penderfynu y byddai'n ei
chael yn anghywir cyn ceisio. Rwy'n amau y bydd fy agweddau tuag at fathemateg
ddim yn newid ac felly'n effeithio ar fy agwedd tuag at fathemateg yn y
dyfodol. Mae mathemateg yn sgil bwysig ac yn cael ei defnyddio yn ddyddiol, ac
felly mae'n bwysig iawn bod ysgolion yn sicrhau bod agweddau plant yn
gadarnhaol cyn iddynt adael ysgol.
Mae’r fideo canlynol yn cefnogi’r syniad ar sut mae agweddau
negyddol tuag at fathemateg yn cael effaith ar agweddau plant i fathemateg.
Wrth
gyfeirio at fathemateg, mae ymchwil yn awgrymu bod agweddau athrawon am
fathemateg yn llunio eu hagweddau personol am addysg fathemateg a dysgu
myfyrwyr (Cross 2009), sydd hefyd yn effeithio ar arferion addysgu yn y dosbarth.
Mae Leung (1995) yn credu fod athrawon yn cael effaith mawr ar sut mae plant yn
dysgu, mae’n meddwl os mae’r athro yn credu nad ydy’r plentyn yn cael y gallu
deallusol neu sgiliau datrys problemau yna ni fyddant yn llwyddo i ddysgu
mathemateg. Gall hyn cael effaith mawr ar hyder plant ac o ganlyniad cael
effaith mawr ar agweddau plant tuag at fathemateg. Dyle athrawon cael agweddau
positif wrth ddysgu plant ac i beidio â chategoreiddio plant yn eu gallu
mathemateg.
Gall
athrawon gwneud mathemateg yn hwyl i’r plant er mwyn iddyn nhw gael agwedd
bositif iddo ac i edrych ymlaen at ddysgu’r pwnc. Gallant nhw ddefnyddio
gwahanol gemau er mwyn ddenu plant i ymdrechu ateb cwestiynau mathemateg, fel
enghraifft bingo, neu ddefnyddio technoleg i chwarae gwahanol gemau. Wrth
ddefnyddio gemau ymarferol sydd yn debyg i fywyd dydd i ddydd gall plant gweld
y pwysigrwydd o ddeall mathemateg, a hefyd bydd plant yn dysgu trwy fwynhau.
Enghraifft o hyn yw gwahanu bwyd i chwarteri a
hanner er mwyn dod yn gyfarwydd â ffracsiynau.
Os bydd athrawon yn dysgu sgiliau mathemateg a fydd yn cael eu
defnyddio yn y dyfodol, na fydd plant yn teimlo bod mathemateg yn wastraff
amser ac efallai y byddant yn dechrau cael diddordeb ynddo. Gall athrawon gofyn
cwestiynau sydd yn y perthnasol i fywydau’r plant er mwyn iddyn nhw fwynhau ac
eisiau dysgu. Yn lle ddysgu pynciau fel algebra, gallaf ddweud wrthych nad ydw
i wedi ei ddefnyddio ers gadael ysgol. Os mae’r plant yn deall pam maent yn
dysgu’r pwnc byddwn nhw yn dangos fwy o ddealltwriaeth am bwysigrwydd
mathemateg.

Mae
ymchwil wedi darganfod fod merched yn tueddu i gael agweddau mwy negyddol tuag
at fathemateg na bechgyn. Darganfu hefyd fod ganddynt fwy o bryder tuag at
fathemateg, mae agweddau negyddol yn effeithio ar eu perfformiad mathemateg, ac
mae’r tebygolrwydd o gael gyrfa yn bwnc yn llai. (Gunderson, E.A et al 2012)
Gall ysgolion ddod a thiwtoriaid mathemateg i gefnogi’r athrawon er mwyn codi
safonau a gwella agweddau plant tuag at fathemateg. Wrth I’r plant cael fwy o
gefnogaeth bydd eu hyder yn gwella ac o ganlyniad bydd plant yn ceisio ateb
cwestiynau heriol.
I
newid agweddau gall athrawon gwneud yn siŵr bod nhw yn bod yn gefnogol ac yn
deal bod pob plant yn dysgu mewn cyflymder gwahanol. Mae ymchwilwyr yn credu
fod agweddau athrawon yn cael dylanwadau agweddau mathemateg a datblygiad
sgiliau mathemateg eu myfyrwyr. (Relich, 1994). Mae Relich (1995) hefyd yn
credu dylai agweddau positif tuag at fathemateg fod yn nod pwysig yn addysg yr
ysgol gynradd a'r athrawon. Mae’n bwysig nad ydy athrawon yn meddwl am ei
atgofion negyddol personol o fathemateg, ac yn dysgu’r plant mewn agwedd
bositif. Mae hyn yn bwysig oherwydd mae Ernest (1989) yn dadlau fod agweddau
athrawon tuag at fathemateg yn effeithio ei brwdfrydedd a hyder wrth addysgu'r
pwnc. Gall athrawon hefyd defnyddio gwahanol dechnegau ddysgu i helpu plant
sydd yn dysgu mewn gwahanol ffurf. Hefyd gallant nhw ddefnyddio posteri neu
arddangosfeydd wal i wneud mathemateg fod yn fwy diddorol.
Rwy’n
credu os mae plant o amgylch amgylchedd gydag agweddau positif tuag at
fathemateg bydd plant yn mwynhau dysgu’r pwnc ac eisiau dysgu mwy. Credaf pe
bai gen i brofiad da wrth ddysgu mathemateg, byddwn i wedi bod yn gyffrous i
ddysgu a chael gwell dealltwriaeth o'r pwnc.
Rhestr Gyfeirio
- Amato, S.A., (2004). Improving Student Teachers' Attitudes to Mathematics. International Group for the Psychology of Mathematics Education.
- Gunderson, E.A., Ramirez, G., Levine, S.C. and Beilock, S.L.,(2012). The role of parents and teachers in the development of gender-related math attitudes. Sex Roles, 66(3-4), pp.153-166.
- https://www.youtube.com/watch?v=7snnRaC4t5c
- Whitty, E. and Clarke, M., (2012). Irish mathematics teachers’ attitudes towards inclusion. European Journal of Special Needs Education, 27(2), pp.237-256.

I gytuno gyda dy bwynt o mae merched yn tueddu o gael agweddau mwy negyddol tuag at fathemateg na fechgyn. Mae Mendick (2005) yn dweud "it is argued that the masculinity of mathematics makes it more problematic for girls." Ac i gytuno gyda hyn, mae ymchwil yn awgrymu fod bechgyn yn cael llai o bryder a llai o anobaith tuag at fathemateg. (Frenzel et al, 2007) Gyda'r tystiolaeth yma, wyt ti'n cytuno neu'n anghytuno gyda dyfyniad Mendick (2005) a pham?
ReplyDeleteFrenzel et al, 2007. Cited in:
Samuelsson, M. & Samuelsson, J. (2016) Gender differences in boys’ and girls’ perception of teaching and learning mathematics, Open Review of Educational Research. [Online]
Available at: https://www.tandfonline.com/doi/full/10.1080/23265507.2015.1127770?scroll=top&needAccess=true
[Accessed on: 22/4/18]
Mendick, H. (2005):
http://bura.brunel.ac.uk/bitstream/2438/5894/7/Fulltext.pdf
This comment has been removed by the author.
ReplyDeleteNad ydw i yn cytuno â'r datganiad hwnnw gan fy mod yn credu bod merched gyda’r un mor gallu i wneud mathemateg fel bechgyn, ac nid dyna yw "gwrywaidd mathemateg" sy'n cyfyngu ar bobl, ond ei phrofiad. Rwy’n gwybod lawer o ferched sy'n anhygoel mewn mathemateg, rwy'n credu ei fod eich profiad yn llunio eich agwedd. Rwy’n cytuno gyda’r dyfyniad Boaler (2015) amdano agweddau myfyriwr tuag at fathemateg wrth gael profiad gwael. “Pupils often maintain a negative relationship to mathematics from bad experiences that shape the rest of their lives.”
ReplyDeleteBoaler, J. (2016) Mathematical Mindsets: Unleashing Students’ Potential through Creative Math, Inspiring Messages and Innovate Teaching. Jossey-Bass.
Mae hyn yn ddadl da, ond i ryw raddau rydw i'n gytuno gyda dyfyniad Mendick oherwydd o siarad o brofiad, roedd bechgyn yn llawer well mewn mathemateg pan oeddwn i mewn ysgol. Ac i gytuno gyda hyn, mae ymchwil yn dangos bod, "boys have consistently earned significantly higher math SAT scores." (Sorooshian, 2015) Ac oherwydd profiad hyn, fe'i harweiniodd i gredu bod mathemateg yn cael ei ystyried fel pwnc gwrywaidd.
ReplyDeleteSorooshian, P. (2015):
http://www.homeschoolerpost.com/16105/129874/a/are-boys-really-better-than-girls-at-math
Mae hynny'n ddadl deg gan eich bod wedi cefnogi'ch pwynt gyda thystiolaeth, i ddyfalu, byddwn yn cytuno i anghytuno!
ReplyDelete