Wrth edrych nôl ar fy amser yn ysgol gynradd rwy'n cofio mwynhau
darllen, ac yn teimlo roeddwn i yn dysgu llawer trwy ddarllen. Rydw i dal yn
cofio y storion wnes i ddarllen yn ysgol gynradd a'r neges sydd yn dod gydag er
mwyn paratoi'r plant i dyfu lan. Roeddwn i yn darllen yn gyson oherwydd roedd
yn orfodol yn ystod amser darllen, ond byddwn i hefyd yn cael gwaith cartref i
ddarllen llyfr. Rwy'n ansicr os roedd y strwythur hwn yn gweithio gyda phob
plant, oherwydd na roedd yr athro yn gwneud yn siŵr roedd pob plentyn yn
darllen y llyfr. Nad roedd pawb yn fy nosbarth yn mwynhau darllen, ac rwy’n
creu gwnaeth hyn cael effaith ar ei ddatblygiad llythrennedd.
Wnaeth arolwg o
blant ysgol ar gyfer ‘Diwrnod Llyfr Byd’ yn 2002 ddangos roedd bechgyn 15-16
blwydd oed yn gwario 2.3 awr yr wythnos yn darllen am bleser, i gymharu gyda’r
9 awr mae’r bechgyn yn gwario ar gemau cyfrifiadurol yr wythnos. Hefyd roedd y
bechgyn yn gwylio 11 awr yr wythnos yn gwylio’r teledu. Ond roedd merched yn
treulio fwy amser yn darllen am bleser, sef 4.5 awr yr wythnos. Mae’r
canlyniadau hyn yn dangos faint mae technoleg yn cymryd dros fywydau plant,
hefyd yn effeithio ei addysg. Ond ar nodyn positif roedd 81% o 11-12 blwydd oed
a 76% o 14-16 blwydd oed yn dal darllen am bleser, ond mae’r ystadegyn yn
lleihau wrth i’r plant mynd yn henaf, felly mae llai o ddarllen yn cael ei
gwneud wrth iddyn nhw dyfu lan, (Clark,
C. et al 2006).
Mae
athrawon a rhieni yn cael trafferth i gael plant i fwynhau darllen, ac i gael
yr eisiau i ddarllen. Os nad yw’r plentyn yn mwynhau darllen mae’n debygol i
fod oherwydd nad ydy’r plentyn yn deall ac felly ddim eisiau mynd trwyddo’r siom
o beidio deall. Mae’n bwysig i’r athrawon a rhieni i gefnogi’r plentyn er mwyn
rhoi’r hyder wrth ddarllen. Mae’r fideo canlynol yn dangos hyn mewn mwy o
ddyfnder.
Mae rhieni yn
defnyddio gwahanol strwythur er mwyn helpu’r ddysgu sut i ddarllen, ac o
ganlyniad fydd y plentyn yn cael pleser wrth ddarllen. Maent yn darllen gyda’r
plentyn ac yn cymryd mewn tro i ddarllen, mae hyn yn golygu bydd yn blentyn yn
gwrando ar y geiriau a dechrau dysgu’r ystyr tu ôl iddo, ac yna bydd y plentyn
yn cael tro ei hun. Mae athrawon hefyd yn defnyddio storion hwyl sydd yn denu’r
plentyn er mwyn ddenu nhw i edrych ymlaen at ddarllen. Mae yna filoedd o lyfrau
i blant ddarllen, gyda gwahanol gategorïau er mwyn ddenu pob plentyn. Wrth gael profiad yn
ysgol gynradd wnes i weld plentyn yn ddewis darllen yn lle chwarae gyda
theganau, wrth ofyn pam wnaeth y plentyn ddweud “oherwydd dwi'n hoffi dawnsio
ac mae'r llyfr hwn amdano ddawnsio.” Wnaeth hyn ddangos i mi sut gall darllen
ddenu fwy o blant os rydym nhw yn darllen amdano dopig maent yn hoffi.
Wrth i’r
plentyn cael pleser wrth ddarllen mae’n rhoi sgil hanfodol yn fywyd, sydd i’r
gallu i ddarllen ac yn paratoi nhw amdano addysg bellach sydd yn dilyn ar gyfer
cael swydd yn y dyfodol. Does dim un dydd yn mynd heibio heb i mi ddarllen ar
un adeg o’r dydd, mae’n sgil allweddol iawn, ac rydym yn ei gymryd yn
ganiataol. Mae’r sgil newydd yna yn rhoi’r cyfle i’r plentyn cael ystod eang o
wybodaeth o wahanol lyfrau, rhai ffeithiol neu ffuglen.
Rhestr Gyfeirio
Clark, C. and Rumbold, K., (2006). Reading for Pleasure: A Research Overview. National Literacy Trust.
“Contemporary
education is outdated; social media now demands a shift from ‘sit down and be
told’ to a culture of ‘making and doing’. The fact giving instructor is no
longer required in the classroom.”(Gauntlett, 2008)
Mae technoleg yn cymryd dros y byd, ac
mae llawer o pobl yn becso amdano ei swydd wrth i 15 miliwn
o swyddi yn cael ei dan
fygythiad gan dechnoleg. (Purewal 2016) Wrth I technoleg ddod mor deallus mae’n gallu gwneud
tasgau cymleth roedd ddim ond pobl yn galli gwneud. O canlyniad nad yw
cyflogwyr eisiau gwario arian yn hyfforddi pobl I gwneud y swydd, felly mae'n
arbed y cyflogwyr llawer o arian I cael robotiaid yn ei lle. Bydd hyn yn cael
effaith mawr ar dyfodol y byd. Gall cyfrifiaduron
symud ymlaen yn y dyfodol i robotiaid anhygoel a allai gymryd rôl athrawon mewn
lleoliad ysgol.
Mae yna llawer o fideos addysgol
ar ‘Youtube’ felly mae pobl yn dadlau bod plant yn gallu ddysgu o fideos
tiwtorio ar-lein yn lle myn I ysgol. Gall hyn fod yn ffordd effeithiol o ddysgu
plant sydd ddim yn cael mynediad I ysgol neu angen tiwtorio ychwanegol ond nid
yw rhieni yn gallu fforddio tiwtor. Ond os oes gan myfyriwr cwestiwn am wers,
ni all fideo roi ateb iddi. Ac rwy'n cofio effaith wnaeth athro da cael ar fy
ddysgu a sut wnaeth hyn effeithio fy mywyd, a na fydd ‘Youtube’ byth ddisodli
hynny.
Commentators
argue that digital technology offers fundamental threat to the role of the
teacher. (Selwyn, 2011, p.119)
Wnaeth ‘Hole
in the wall project’ (Mitra, 2005) yn Kalkaji,
New Delhi rhoi cyfrifiadur yn wall o fewn y slwm. Wnaethon nhw asesu sut roedd
y plant yn ymddwyn tuag at electronig help cael ei ddysgu sut I defnyddio. Ar y
cyfrifiadur roedd wahanol gemau addysgol. Dros amser wnaeth y plant ddysgu ei
hunain sut I defnyddio’r cyfrifiadur a ddysgu wahanol wybodaeth o fewn ddyfais.
Gall hyn cefnogi bod plant yn gallu ddysgu heb athrawon, ac o canlyniad nad yw
plant yn gallu ddysgu o technoleg. Mae’r fideo canlynol yn ddangos yr effaith
mae technoleg yn cael ar plant o llefydd tlawd, nad oes angen athrawon ar y
plant I ddysgu wahnaol sgiliau newydd. Mae’r plant yn cael mynediad I’r
cyfrifiadur ar unrhyw adeg, felly mae’r ddysgu yn fwy hyblyg I’r plant ac yn
rhoi fwy cyfleuoedd.
Ar y llaw arall, efallai bydd y syniad o
dechnoleg cymryd dros athrawon yn amhosibl oherwydd y cost. Mae athrawon yn
cael cyflog cyfartalog o £22,917 y blwyddyn, sydd yn llawer llai I cymharu ar y
pris bydd yn costi I cael robotiaid yn lle athrawon. Mae robotiaid angen trydan
i'w rhedeg, felly bydd costau rhedeg y robotiaid yn ddrud iawn i'r ysgolion. Os
oes gwall trydanol gyda'r robot, bydd yn ddrud i'w atgyweirio a bydd hyn yn
cael effaith ar addysg y plant oherwydd byddwn nhw yn colli gwersi a fydd yn
effeithio ar eu datblygiad.
Hefyd nid yw robotiaid yn
ddynol, ac felly ddim yn cael emosiynau. Bydd y robot ddim yn empatheiddio a deall ffordd gall plant teimlo wrth ymdrechu gwneud y gwaith.
Ni fydd robotiaid yn gallu sylweddoli os roedd plentyn yn cael trafferth gyda pwnc a sut I helpu, neu os
roedd plentyn yn cam ymddwyn o fewn y dosbarth nah fydd y robot yn cael
rheolaeth ohonno. Os roedd plant yn ymddwyn yn anarferol na fydd y robots yn
gallu meddwl os oes materion personol ganddo ac I fod yn rhywyn I trafod
problemau gyda. Ni all robotiaid weithredu fel modelau rôl i'w myfyrwyr, sy'n
ffactor pwysig o fewn lleoliad ysgol. (Soffar
2016)
Rhestr Gyfeirio
Donaldson, G., (2015). Successful futures: Independent review of curriculum and assessment arrangements in Wales. Welsh Government.
Mitra, S., (2005). Self organising systems for mass computer literacy: Findings from the ‘hole in the wall’experiments. International Journal of Development Issues, 4(1), pp.71-81.
Prenksy, M. (2008). The Role of Technology in teaching and the classroom. Education Technology. 486.
Mae
plant yn gwario bron naw awr ar y we pob dydd. Mae hyn yn ystadegyn syfrdanol
ond i mi nad ydy'n sioc oherwydd mae'r we yn bobman. Mae yna lawer o wahanol
lwyfannau cyfryngau cymdeithasol mae plant yn cael mynediad i am ddim, ac yn fy
marn i nad yw'n anodd cael cyfrif hyd yn oed pan fyddwch dan oed. Ac o
ganlyniad dyna pam mae'n bwysig iawn i wneud yn siŵr bod plant yn ymwybodol o'r
peryglon o'r we. Mae'r fideo canlynol yn dangos y pwysigrwydd o fod yn ddiogel
ar y we, a chael gosodiadau preifatrwydd cywir. Mae'r fideo yn pwysleisio
pwysigrwydd o gael gosodiadau preifatrwydd cywir ac i beidio â chredu popeth a
welwch. Mae’r fideo hefyd yn dangos y fath o bobl gall fod ar-lein, a'r gallu
cysylltu efo chi os nad ydych chi yn cael y gosodiadau preifatrwydd cywir. Yn
ôl yr NSPCC roedd yna 2,132 o sesiynau cynghori gyda phlant ifanc yn trafod
cam-fanteisio’n rhywiol blant ar-lein yn 2017. Mae’r ystadegyn hyn wedi cynyddu
44% ers y flwyddyn ddiwethaf.
‘ E-safety refers to the way young people are taught about risks online, how they can protect themselves and to whom they should report worrying activity’ (Barnard-Wills, 2012, p. 240).
Yn
y seminar wnaethon ni hefyd son am bobl yn creu proffil ffug er mwyn edrych am
fwy o ffrindiau neu i gael perthynas. Mae hyn yn beryglus oherwydd mae pobl
ifanc yn credu mae’r bobl yn rhywun maent yn gwybod. Mae hyn yn gadael plant i
gredu eu bod wedi gwneud ffrindiau newydd, ond y gwir realiti yw y gallent fod
mewn perygl.
Yn
seminar wnaethon ni edrych ar e-ddiogelwch ac yn grwpiau roedd rhaid i ni greu
pwynt pŵer i ddangos beth yw seiber fwlio a beth i wneud os rydych chi’n credu
mae’n digwydd i chi. Mae gan lawer o wefannau cyfryngau cymdeithasol polisïau
fwlio er mwyn ddiogelu ei ddefnyddwyr. Enghraifft wnaethon ni defnyddio roedd
Instagram, mae llawer o blant yn rhannu lluniau i ffrindiau yn ysgol, ond
efallai nad ydy pawb yn ei ysgol yn cytuno gyda’r llun ac o ganlyniad gall
plant eraill rhoi sylwadau ar y llun, a gall hyn troi i mewn i fwlio. Mae
‘instagram’ yn cael yr ystadegau gweithiaf o’r cyfryngau cymdeithasol gyda 42%
o blant yn cael ei fwlio arno. Yn yr arolwg mae’r plant hefyd yn dweud nad
ydy’r llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn gwneud ddigon i leihau seiberfwlio.
Mae un yn pob tri o blant yn cael ei fwlio ar-lein.
Mae plant hefyd yn cael y cyfle i siarad gyda phobl nad ydynt yn
gwybod ar ‘Xbox live’. Mae pobl ar draws y byd yn gallu mynd ar y gêm, mae hyn
yn ddiddorol wrth i bobl ifanc cael mynediad i gael pobl o wahanol
gymdeithasau, ond gall hefyd fod yn beryglus iawn. Mae pobl yn creu cymeriad
gan ddefnyddio enw defnyddiwr, hwn yw’r unrhyw wybodaeth gall pobl gweld
amdano, mae hyn yn helpu cadw eich hun un saf, ond ar yr ochr arall nad ydych
chi’n cael y cyfle i weld os rydych yn adnabod y person sydd eisiau gem efo
chi. Mae Xbox yn rhoi polisïau diogelwch er mwyn helpu cad plant yn ddiogel
wrth ddefnyddio. Gall rhieni i blentyn cael mynediad i’r gosodiadau
preifatrwydd er mwyn newid nhw i’r gosodiad maent yn credu sy'n briodol.
Mae ysgolion hefyd yn trio cadw plant yn saff ar y we wrth i
dechnoleg bod yn rhan fawr mewn addysg plant. Mae’r cyngor yn lleihau mynediad
i wefannau cyfryngau cymdeithasol a hefyd rhai maen nhw’n credu sydd yn
beryglus. Felly wrth i blant mynd ar y we i ymchwilio am wybodaeth ar dasg gall
colli allan ar rhai gwybodaeth oherwydd nad dydy’n cael mynediad i’r wefan. Mae
hyn yn gwneud i’r rhieni teimlo well am ei phlant fod ar y we oherwydd mae’r
plant yn cael cyfyngedig ar y we.
Er
bod hyn yn cadw’r plant yn saff, rydyn nhw dal ddim yn ymwybodol o beth yw’r
peryglon o fod ar y we. Felly dyle ysgolion sicrhau eu bod yn addysgu eu
disgyblion am ddiogelu ar-lein. Rydw i’n credu dyle plant cael ei addysgwyd yn
e-ddiogelwch, ac i fod yn ymwybodol o'r peryglon, yn hytrach na'u cuddio oddi
wrth y plant.
“Such open online access if you simply block
and use strict filters learners will only experience sanitised version of the
internet. You could be putting children at a greater risk.”
(Savage and
Barnett, 2015)
Rhestr Gyfeirio
Barnard-Wills, D., 2012. E-safety education: Young people, surveillance and responsibility. Criminology & Criminal Justice, 12(3), pp.239-255.
Mae
curriculum newydd Donaldson yn cyflwyno sut bydd technoleg yn cael ei defnyddio
yn ysgolion cynradd. Bydd myfyrwyr yn dysgu sgiliau TGCh allweddol trwy wneud
tasgau gan ddefnyddio technoleg. Y nod yw gwella gwybodaeth ddigidol plant er
mwy paratoi ar gyfer defnyddio technoleg yn y dyfodol. (Donaldson, G., 2015)
Mae newidiadau tuag at y cwricwlwm yn newid gydag amser, yn 2015 wnaeth
Donaldson rhoi curriculum newydd gyda chwe phrif faes mae rhaid i athrawon
canolbwyntio arno wrth ddysgu, ac un o’r chwech yw technoleg. Gallwn weld yn
barod mae technoleg yn cymryd drosodd o fewn pob agwedd yn ei bywydau. Felly o
ganlyniad mae athrawon yn cael ei gorfodi i ddod â thechnoleg i mewn i bob
gwers. Mae’n bwysig i athrawon i ddysgu sgiliau technolegol yn effeithiol ac yn
plethu o fewn pob pwnc.
Mae ystod eang o gyfleoedd ar gyfer
athrawon a thechnoleg yn yr ystafell ddosbarth.
Er enghraifft, mae'r canlynol yn syniadau o sut i ddod â thechnoleg i mewn i
wersi.
·Rhoi
gweithgareddau ar-lein i blant sydd wedi cwblhau ei gwaith yn gynnar.
·Sefydlu
blogiau i’r plant i fod yn greadigol o fewn gwersi.
·Defnyddio
gwahanol wefannau i greu map meddwl o fewn grŵp.
“Mae angen i blant a phobl ifanc ddysgu sut i
fod yn fwy na defnyddwyr technoleg ac i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd
eu hangen i ddefnyddio'r dechnoleg honno'n greadigol fel dysgwyr ac aelodau'r
dyfodol o weithlu sy'n gymwys yn dechnegol.” (Donaldson, 2015, p. 8)
Yn ei seminarau wnaeth fy nhiwtor
ddangos gwahanol apps gall athrawon defnyddio wrth fwyn defnyddio technology yn
effeithiol yn y dosbarth. Enghraifft gyntaf wnaethon ni defnyddio oedd
‘garageband’, mae hyn yn ap sydd yn caniatáu plant i greu gwahanol gerddoriaeth
o fewn yr ap. Gall athrawon defnyddio’r ap er mwyn gosod
tasg cerddoriaeth, gallant nhw wedyn defnyddio’r gerddoriaeth i greu ffilm
fach, mae’r ap yncynnig gwahanol offerynnau
sydd yn gallu cael ei addasu ar gyfer wahanol themâu. App wahanol gall athrawon
rhoi i’r plant yw ‘video clip’, gall y plant rhoi gwahanol luniau at ei gilydd
i greu fideo, ac yna gall y plant defnyddio'r gerddoriaeth wnaethon nhw greu yn
‘garageband’ a rhoi at ei gilydd. Mae Gardner a Davis (2013) yn disgrifio’r
newid enfawr o fewn technoleg dros y blynyddoedd a sut mae pobl heddiw yn
‘cynhadledd ap’ wrth i bobl chwilio am ap sydd yn mynd i newid bywydau pobl
wrth ddatrys ei phroblemau. Mae apps yn cael ei defnyddio gan ran fwyaf o bobl
yn ddyddiol, felly mae’n syniad da i ddefnyddio’r apps er mwyn addysgu plant a
pharatoi ar gyfer y dyfodol.
“The role of the Teacher will be forced
to adapt and change due to technology but they will not be totally displaced.”
(Prenksy, 2008) Mae technoleg yn cael effaith mawr ar fywyd pob dydd ac o
ganlyniad yn effeithio ar ddysgu plant. Mae cwmnïau fel Google yn helpu cefnogi
ysgolion o bob cefndir i gael addysg i dechnoleg. Mae’r fideo canlynol yn
esiampl o sut mae google yn cael effaith arbennig ar dechnoleg yn ysgolion
cynradd. <https://www.youtube.com/watch?v=3s3pyJtLFNI>
Mae Google yn darparu cyfleoedd i
ysgolion difreintiedig trwy ariannu rhaglenni datblygiad proffesiynol, gall hyn
creu effaith barhaol ar gyfer addysgwyr cyfrifiaduron, sydd yn gallu cael ei
ddefnyddio trwy bob pwnc mewn lleoliad ysgol gynradd. Ar gyfartaledd mewn un
flwyddyn mae un grant oddi wrth Google yn helpu pumdeg chwech o athrawon, a
dros 1,500 o fyfyrwyr.
“More than 65% of students will work in
jobs that don’t even exist today. We want to help prepare them for that future
by getting them excited about where computer science (CS) can take them.” –
(Google for Education, 2018)
Mae ysgolion yn gallu cofrestru am
‘Google Apps’ sydd am ddim ac yn gallu bod yn bersonol ar gyfer pob unigolyn yn
yr ysgol. Er bod google apps ar gyfer oedolion, mae'n helpu i roi dealltwriaeth
i blant am ddiogelwch ar-lein ac yn eu paratoi ar gyfer technoleg yn y dyfodol.
Mae’r plant yn cofrestru trwy greu e-bost ‘gmail’. Mae’r plant yn gallu creu
gwahanol wefannau, creu dyddiaduron ac yn gallu cael mynediad i wahanol offer
ysgrifennu. Er bod ‘Google apps’ ar gyfer oedolion gall athrawon bod yn
ddewisol ar ba apps mae’r plant yn cael mynediad i. Felly ar draws yr ysgol mae
gan wahanol flynyddoedd mynediad gwahanol i’r apps. Mae hyn yn gwneud yn siŵr
bod google yn cael ei defnyddio trwy gydol ysgolion cynradd, mae’r plant hefyd
yn edrych ymlaen at ddefnyddio ap gwahanol y flwyddyn nesaf.
Mae athrawon yn gallu defnyddio apps fel
‘Edmodo’ I osod gwaith cartref i’r disgyblion, ac mae'r rheini hefyd yn cael
mynediad i’r gwaith sydd wedi cael ei osod, ac os mae ei phlentyn wedi
cwblhau’r gwaith. Mae'n caniatáu i rieni ac athrawon fod mewn cysylltiad i'w
gilydd i drafod cynnydd ac ymdrech y plentyn o fewn pob pwnc. Mae hyn yn
galluogi mwy o drafodaeth a chefnogaeth i bawb sy'n ymwneud ag addysg y
plentyn, yn hytrach na thrafod ychydig o weithiau dros y flwyddyn yn noson
rieni. Ond ar yr ochr arall gall plant ac athrawon cael gormod o gysylltiad ac
nid yw'r athrawon yn cael cyfle i wahanu gwaith o'u bywyd personol. Ond mae 74%
o athrawon yn ddweud bod technoleg yn cymell plant i ddysgu. (PBS Survey Finds
Teachers are Embracing Digital Resources to Propel Student Learning | PBS
About, 2018)
Mae athrawon yn
gallu defnyddio technoleg i addasu ei ddysgu er mwyn cefnogi arddulliau dysgu
gwahanol sydd gan bob disgybl. Gall hyn cael ei gwneud trwy ddefnyddio
gliniaduron wrth i’r athrawon rhoi meddalwedd briodol sydd yn helpu'r plant
wrth wneud y dasg. Mae athrawon yn defnyddio bwrdd gwyn rhyngweithiol i gael
ymgysylltiad gan bob plentyn yn yr ystafell ddosbarth i sicrhau eu bod i gyd yn
elwa o'r wers. (Savage, M., 2015)
“Realiti rhithwir yw'r
'ultimate empathy machine’. Mae'r profiadau hyn yn fwy na rhaglenni dogfen.
Maent yn gyfleoedd i gerdded milltir mewn esgidiau rhywun arall.” (Milk 2018)
Mae athrawon yn gallu
defnyddio realiti rhithwir yn effeithio er mwyn ddod a’r gwersi yn realiti.
Gallant nhw gael ei defnyddio o fewn pob pwnc er mwyn ymgysylltu’r plant i’r
wers ac i roi fwy o ddealltwriaeth iddyn nhw, ac o ganlyniad bydd y plant yn
cael y mwyaf o’r gwersi. Hefyd os nad ydy’r ysgol yn caniatáu taith ysgol i'r
plant, neu os yw'n amhosib i'r ysgol gyrraedd rhai cyrchfannau, nad ydy reality
rhithwir yn eu cyfyngu, oherwydd gall y plant weld unrhyw ran o'r byd gyda
chyffwrdd botwm. Mae’r fideo canlynol yn dangos y wahanol ffurf mae athrawon yn
defnyddion reality rhithwir yn effeithiol o fewn y dosbarth.
Rhestr Gyfeirio
Donaldson, G., (2015). Successful futures: Independent review of curriculum and assessment arrangements in Wales. Welsh Government.
Films for the Earth. (2018). The most impressive 360° and VR films - Films for the Earth. [online] Available at: https://filmsfortheearth.org/en/themen/the-most-impressive-3600-and-vr-films
Gardner, H. and Davis, K., (2013). The app generation: How today's youth navigate identity, intimacy, and imagination in a digital world. Yale University Press.
Google for Education. (2018). Computer Science programs to support and encourage students | Google for Education. [online] Available at: https://edu.google.com/computer-science/?modal_active=none [Accessed 7 Apr. 2018].
Leopold, T.A., Ratcheva, V. and Sahiri, S., (2016), January. The future of jobs—Employment, skills and workforce strategy for the fourth industrial revolution, global challenge insight report. In World Economic Forum, Geneva.
PBS Survey Finds Teachers are Embracing Digital Resources to Propel Student Learning | PBS About. (2013). PBS Survey Finds Teachers are Embracing Digital Resources to Propel Student Learning | PBS About. [online] Available at: http://www.pbs.org/about/news/archive/2013/teacher-tech-survey
Prenksy, M. (2008). The Role of Technology in teaching and the classroom. Education Technology. 486.
Savage, M., (2015). Digital Literacy for Primary Teachers. Critical Publishing.
Mae
storion yn cael effaith mawr ar ddatblygiad plentyn trwy gydol eu hamser yn
addysg gynradd. Mae’r storion yn rhoi’r cyfle i blant ddatblygu ei
dealltwriaeth o’r wahanol gymdeithasau sydd o gwmpas nhw, ac i ddod yn gyfaredd
gyda gwahanol draddodiadau sydd gan wahanol grefydd. Mae storion hefyd yn dysgu
plant amdano’r bydysawd o'u hamgylch nhw, a sut i barchu e. Wrth i’r plant
gwrando ar y storion mae’n rhoi sgiliau creadigol wrth iddyn nhw ddefnyddio ei
dychymyg.
Cynnwys
un seminar yn ddiwethaf roedd amdano sachau stori a sut maent yn cael ei
defnyddio yn ysgolion. Wnaeth Neil Griffiths ddod lan gyda’r syniad o sach sydd
yn cynnwys nwyddau sydd yn addas ar gyfer y llyfr sydd ynddo. Gall y nwyddau
fod pypedau, CD, a gêm. Mae sachau stori yn rhoi cyfle i’r plant roi cynnig ar
ddweud stori wrth ei ffrindiau, ac yn galluogi nhw i ddefnyddio ei
chreadigrwydd wrth ddefnyddio’r nwyddau. Mae’r sachau stori yn rhoi cyfle i bob
plant deall a mwynhau'r stori ac na fydd anabledd neu anawsterau dysgu cyfyngu
nhw i ddeall y stori. Mae’r nwyddau yn cynhyrchu’r synhwyrau'r plentyn. Mae’r
plant yn gallu gwrando ar y stori os mae’r plentyn yn cael trafferth gweld y
stori. Mae’r sachau stori yn gallu cael ei ddweud mewn gwahanol ffurf er mwyn
gwneud yn addas i’r plentyn. Mae’r lluniau yn dangos esiampl o sach stori wnaethon ni edrych arno yn
y seminar, rwy’n credu mae’r llyfrau yn cael effaith positif ar addysg y plant
wrth iddyn nhw gael cyfle i weithio’n annibynnol. Mae’r athrawon hefyd yn
defnyddio’r llyfrau er mwyn gwneud ei ddweud stori yn fwy diddorol.
Mae
dweud stori yn gwella sgiliau gwrando'r plant wrth iddyn nhw ffocysu ar y stori
er mwyn clywed beth sydd i ddod nesaf. Mae dweud stori yn cadw ymgysylltu o’r
plant, weithiau gall athrawon lleihau ddweud diwedd y stori, ac fel tasg gall y
plant ddod lan a diweddglo ei hun. Ar ôl i’r plant gwrando’r i’r stori mae’n annog
trafodaeth rhwng y plant wrth iddyn nhw drafod os wnaethon nhw hoffi’r stori a
pwy roedd ei hoff gymeriad.
“Stories can
be an invaluable tool for developing speaking and listening skills and as a
stimulus for discussion or for philosophy and thinking skills. Stories can
assist the development of social awareness and help children to build up an
emotional vocabulary. History and geography, science, religious education and
even maths can all come alive through stories.”(Jennifer
M. Fox. 2005, p.10)
Mae plant yn cael gwahanol ffurf o
ddysgu i’w gilydd, mae yna tri gwahanol ffurf; cinesthetig gweledol, clywedol.
Mae dweud stori yn effeithiol iawn oherwydd mae’n galluogi i’r plant dysgu trwy
un o’r tair ffurf. Gall yr athro gweithredu'r stori er mwyn i’r plant
cinesthetig i ddeall a chofio’r stori. I’r plant sydd yn dysgu’n weledol gall
yr athro defnyddio pypedau neu bosteri i ailadrodd y stori i’r plentyn. Ac yn
olaf gall y plant ddysgu trwy wrando ar y stori sydd yn cael ei ddweud and yna
trafod syniadau sydd ganddo.
Rhestr Gyfeirio
Eades, J., (2005). Classroom tales: Using storytelling to build emotional, social and academic skills across the primary curriculum. Jessica Kingsley Publishers.