Wednesday, 7 February 2018

Sut gall athrawon defnyddio technoleg yn effeithiol mewn dosbarth cynradd?



Mae curriculum newydd Donaldson yn cyflwyno sut bydd technoleg yn cael ei defnyddio yn ysgolion cynradd. Bydd myfyrwyr yn dysgu sgiliau TGCh allweddol trwy wneud tasgau gan ddefnyddio technoleg. Y nod yw gwella gwybodaeth ddigidol plant er mwy paratoi ar gyfer defnyddio technoleg yn y dyfodol. (Donaldson, G., 2015) Mae newidiadau tuag at y cwricwlwm yn newid gydag amser, yn 2015 wnaeth Donaldson rhoi curriculum newydd gyda chwe phrif faes mae rhaid i athrawon canolbwyntio arno wrth ddysgu, ac un o’r chwech yw technoleg. Gallwn weld yn barod mae technoleg yn cymryd drosodd o fewn pob agwedd yn ei bywydau. Felly o ganlyniad mae athrawon yn cael ei gorfodi i ddod â thechnoleg i mewn i bob gwers. Mae’n bwysig i athrawon i ddysgu sgiliau technolegol yn effeithiol ac yn plethu o fewn pob pwnc.

Mae ystod eang o gyfleoedd ar gyfer athrawon a thechnoleg yn yr ystafell ddosbarth.
Er enghraifft, mae'r canlynol yn syniadau o sut i ddod â thechnoleg i mewn i wersi.

·        Rhoi gweithgareddau ar-lein i blant sydd wedi cwblhau ei gwaith yn gynnar.

·        Sefydlu blogiau i’r plant i fod yn greadigol o fewn gwersi.

·        Defnyddio gwahanol wefannau i greu map meddwl o fewn grŵp.


 “Mae angen i blant a phobl ifanc ddysgu sut i fod yn fwy na defnyddwyr technoleg ac i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i ddefnyddio'r dechnoleg honno'n greadigol fel dysgwyr ac aelodau'r dyfodol o weithlu sy'n gymwys yn dechnegol.” (Donaldson, 2015, p. 8)

Yn ei seminarau wnaeth fy nhiwtor ddangos gwahanol apps gall athrawon defnyddio wrth fwyn defnyddio technology yn effeithiol yn y dosbarth. Enghraifft gyntaf wnaethon ni defnyddio oedd ‘garageband’, mae hyn yn ap sydd yn caniatáu plant i greu gwahanol gerddoriaeth o fewn yr ap. Gall athrawon defnyddio’r ap er mwyn gosod tasg cerddoriaeth, gallant nhw wedyn defnyddio’r gerddoriaeth i greu ffilm fach, mae’r ap yn cynnig gwahanol offerynnau sydd yn gallu cael ei addasu ar gyfer wahanol themâu. App wahanol gall athrawon rhoi i’r plant yw ‘video clip’, gall y plant rhoi gwahanol luniau at ei gilydd i greu fideo, ac yna gall y plant defnyddio'r gerddoriaeth wnaethon nhw greu yn ‘garageband’ a rhoi at ei gilydd. Mae Gardner a Davis (2013) yn disgrifio’r newid enfawr o fewn technoleg dros y blynyddoedd a sut mae pobl heddiw yn ‘cynhadledd ap’ wrth i bobl chwilio am ap sydd yn mynd i newid bywydau pobl wrth ddatrys ei phroblemau. Mae apps yn cael ei defnyddio gan ran fwyaf o bobl yn ddyddiol, felly mae’n syniad da i ddefnyddio’r apps er mwyn addysgu plant a pharatoi ar gyfer y dyfodol.

“The role of the Teacher will be forced to adapt and change due to technology but they will not be totally displaced.” (Prenksy, 2008) Mae technoleg yn cael effaith mawr ar fywyd pob dydd ac o ganlyniad yn effeithio ar ddysgu plant. Mae cwmnïau fel Google yn helpu cefnogi ysgolion o bob cefndir i gael addysg i dechnoleg. Mae’r fideo canlynol yn esiampl o sut mae google yn cael effaith arbennig ar dechnoleg yn ysgolion cynradd. <https://www.youtube.com/watch?v=3s3pyJtLFNI>

Mae Google yn darparu cyfleoedd i ysgolion difreintiedig trwy ariannu rhaglenni datblygiad proffesiynol, gall hyn creu effaith barhaol ar gyfer addysgwyr cyfrifiaduron, sydd yn gallu cael ei ddefnyddio trwy bob pwnc mewn lleoliad ysgol gynradd. Ar gyfartaledd mewn un flwyddyn mae un grant oddi wrth Google yn helpu pumdeg chwech o athrawon, a dros 1,500 o fyfyrwyr. 



“More than 65% of students will work in jobs that don’t even exist today. We want to help prepare them for that future by getting them excited about where computer science (CS) can take them.” – (Google for Education, 2018)

Mae ysgolion yn gallu cofrestru am ‘Google Apps’ sydd am ddim ac yn gallu bod yn bersonol ar gyfer pob unigolyn yn yr ysgol. Er bod google apps ar gyfer oedolion, mae'n helpu i roi dealltwriaeth i blant am ddiogelwch ar-lein ac yn eu paratoi ar gyfer technoleg yn y dyfodol. Mae’r plant yn cofrestru trwy greu e-bost ‘gmail’. Mae’r plant yn gallu creu gwahanol wefannau, creu dyddiaduron ac yn gallu cael mynediad i wahanol offer ysgrifennu. Er bod ‘Google apps’ ar gyfer oedolion gall athrawon bod yn ddewisol ar ba apps mae’r plant yn cael mynediad i. Felly ar draws yr ysgol mae gan wahanol flynyddoedd mynediad gwahanol i’r apps. Mae hyn yn gwneud yn siŵr bod google yn cael ei defnyddio trwy gydol ysgolion cynradd, mae’r plant hefyd yn edrych ymlaen at ddefnyddio ap gwahanol y flwyddyn nesaf.
Mae athrawon yn gallu defnyddio apps fel ‘Edmodo’ I osod gwaith cartref i’r disgyblion, ac mae'r rheini hefyd yn cael mynediad i’r gwaith sydd wedi cael ei osod, ac os mae ei phlentyn wedi cwblhau’r gwaith. Mae'n caniatáu i rieni ac athrawon fod mewn cysylltiad i'w gilydd i drafod cynnydd ac ymdrech y plentyn o fewn pob pwnc. Mae hyn yn galluogi mwy o drafodaeth a chefnogaeth i bawb sy'n ymwneud ag addysg y plentyn, yn hytrach na thrafod ychydig o weithiau dros y flwyddyn yn noson rieni. Ond ar yr ochr arall gall plant ac athrawon cael gormod o gysylltiad ac nid yw'r athrawon yn cael cyfle i wahanu gwaith o'u bywyd personol. Ond mae 74% o athrawon yn ddweud bod technoleg yn cymell plant i ddysgu. (PBS Survey Finds Teachers are Embracing Digital Resources to Propel Student Learning | PBS About, 2018) 

Mae athrawon yn gallu defnyddio technoleg i addasu ei ddysgu er mwyn cefnogi arddulliau dysgu gwahanol sydd gan bob disgybl. Gall hyn cael ei gwneud trwy ddefnyddio gliniaduron wrth i’r athrawon rhoi meddalwedd briodol sydd yn helpu'r plant wrth wneud y dasg. Mae athrawon yn defnyddio bwrdd gwyn rhyngweithiol i gael ymgysylltiad gan bob plentyn yn yr ystafell ddosbarth i sicrhau eu bod i gyd yn elwa o'r wers. (Savage, M., 2015)

“Realiti rhithwir yw'r 'ultimate empathy machine’. Mae'r profiadau hyn yn fwy na rhaglenni dogfen. Maent yn gyfleoedd i gerdded milltir mewn esgidiau rhywun arall.” (Milk 2018)

Mae athrawon yn gallu defnyddio realiti rhithwir yn effeithio er mwyn ddod a’r gwersi yn realiti. Gallant nhw gael ei defnyddio o fewn pob pwnc er mwyn ymgysylltu’r plant i’r wers ac i roi fwy o ddealltwriaeth iddyn nhw, ac o ganlyniad bydd y plant yn cael y mwyaf o’r gwersi. Hefyd os nad ydy’r ysgol yn caniatáu taith ysgol i'r plant, neu os yw'n amhosib i'r ysgol gyrraedd rhai cyrchfannau, nad ydy reality rhithwir yn eu cyfyngu, oherwydd gall y plant weld unrhyw ran o'r byd gyda chyffwrdd botwm. Mae’r fideo canlynol yn dangos y wahanol ffurf mae athrawon yn defnyddion reality rhithwir yn effeithiol o fewn y dosbarth.





Rhestr Gyfeirio

  • Donaldson, G., (2015). Successful futures: Independent review of curriculum and assessment arrangements in Wales. Welsh Government.
  • Films for the Earth. (2018). The most impressive 360° and VR films - Films for the Earth. [online] Available at: https://filmsfortheearth.org/en/themen/the-most-impressive-3600-and-vr-films
  • Gardner, H. and Davis, K., (2013). The app generation: How today's youth navigate identity, intimacy, and imagination in a digital world. Yale University Press.
  • Google for Education. (2018). Computer Science programs to support and encourage students | Google for Education. [online] Available at: https://edu.google.com/computer-science/?modal_active=none [Accessed 7 Apr. 2018].
  • Leopold, T.A., Ratcheva, V. and Sahiri, S., (2016), January. The future of jobs—Employment, skills and workforce strategy for the fourth industrial revolution, global challenge insight report. In World Economic Forum, Geneva.
  • PBS Survey Finds Teachers are Embracing Digital Resources to Propel Student Learning | PBS About. (2013). PBS Survey Finds Teachers are Embracing Digital Resources to Propel Student Learning | PBS About. [online] Available at: http://www.pbs.org/about/news/archive/2013/teacher-tech-survey
  • Prenksy, M. (2008). The Role of Technology in teaching and the classroom. Education Technology. 486.
  • Savage, M., (2015). Digital Literacy for Primary Teachers. Critical Publishing.



8 comments:

  1. Rydych wedi trafod llawer o bwyntiau o sut gall athrawon defnyddio technoleg yn effeithiol mewn dosbarth cynradd. Ond yn ystod ein seminar, wnaethon ni dysgu am fodel poblogaidd gan Dr. Puentedura, o'r enw SAMR model. Mae'r SAMR model yn cefnogi ac yn galluogi athrawon i ddylunio, datblygu a chreu profiadau wrth ddefnyddio technoleg. Sut yn dy farn di gall athrawon ddefnyddio model hyn o fewn addysg?
    Dyma fideo sydd yn trafod y SAMR model yn fwy dyfnder, sydd yn gallu helpu ti i benderfynu ar dy farn.

    https://www.youtube.com/watch?v=ZQTx2UQQvbU

    ReplyDelete
    Replies
    1. This comment has been removed by the author.

      Delete
  2. This comment has been removed by the author.

    ReplyDelete
  3. This comment has been removed by the author.

    ReplyDelete
  4. This comment has been removed by the author.

    ReplyDelete
  5. Credaf fod y fideo yn ddiddorol gan ei fod yn dysgu i mi beth yw SMAR, a sut y gellir ei ddefnyddio yn y wers. Canfyddai'r syniad o ddefnyddio mapiau digidol o fewn gwers yn ffordd effeithiol o esbonio amrywiaeth o agwedd o fewn daearyddiaeth. Er mwyn cael y disgyblion i wneud llun map o'r wlad maent yn ei astudio yn ffordd effeithiol o sicrhau eu bod yn dysgu. Gall athrawon defnyddio’r SAMR model mewn llawer o ffyrdd. Felly mewn SAMR model Puentedura, Wnaeth o awgrymu bod yna 4 defnydd gall athrawon dilyn i wella sut mae nhw yn ei ddysgu a werthuso ar dechnoleg. Y pedwar defnydd yw; amnewid, cynydd, addasiad a ailddiffinio. Gall athrawon defnyddio amnewid trwy; yn lle defnyddio pen a phapur i gymryd nodiadau, gall y plant defnyddio iPads neu laptop i gymryd nodiadau.Addasiad; pob ddisgybl yn ddefnyddio’r app, gall hyn cynnwys apps fel Google Docs neu Notability.
    Ailddiffinio; bydd athrawon gyda mynediad i nodiadau pawb yn y ddosbarth. Ac mae hyn yn dangos enghreifftiau syml o ddefnyddio’r SAMR model O fewn y ddosbarth.

    ReplyDelete
  6. Mae hyn yn esboniad arbennig o dda o ran sut gall athrawon defnyddio SAMR model o fewn y dosbarth. Ond ar y llaw, dydw i ddim yn credu bod athrawon yn dilyn y SAMR model oherwydd mae ganddyn nhw lawer i wneud gan ddilyn y cwricwlwm. Er bod y SAMR model yn ddefnyddiol ac yn dangos llawer o ffyrdd buddiol ac yn rhoi'r cyfle i'r athrawon i werthuso ar dechnoleg i drawsnewid y profiad dysgu i'r plant, bydd yr athrawon yn gwneud beth bynnag o ddilyn y model, oherwydd mae'n ddim ond yn ganllaw.

    ReplyDelete
  7. Ni welais ochr honno'r ddadl, diolch am eich cyfraniad.

    ReplyDelete