Tuesday, 17 April 2018

Beth ellir ei wneud i wella agweddau tuag at fathemateg yn yr ystafelloedd dosbarth cynradd?


Gan siarad o brofiad fy hun, rwy'n ymwybodol o bwysigrwydd agwedd bositif tuag at fathemateg. Pam roeddwn i yn ysgol uwchradd cefais i athro mathemateg roedd dim ond yr hoffi’r plant yn ei ddosbarth roedd yn deall mathemateg. Roeddwn I yn ofnus i ofyn am help oherwydd roedd yr athro yng nghywilydd fi o flaen y dosbarth os roeddwn i wedi cael y cwestiwn yn anghywir. Roeddwn i'n teimlo'n dwp ac yn ofni gofyn am help, ac o ganlyniadau wnaeth fy hyder mewn mathemateg gwanhau. Wrth I mi drio cwestiwn caled, byddwn yn teimlo'n amharod i roi cynnig arni gan fy mod wedi penderfynu y byddai'n ei chael yn anghywir cyn ceisio. Rwy'n amau y bydd fy agweddau tuag at fathemateg ddim yn newid ac felly'n effeithio ar fy agwedd tuag at fathemateg yn y dyfodol. Mae mathemateg yn sgil bwysig ac yn cael ei defnyddio yn ddyddiol, ac felly mae'n bwysig iawn bod ysgolion yn sicrhau bod agweddau plant yn gadarnhaol cyn iddynt adael ysgol.

Mae’r fideo canlynol yn cefnogi’r syniad ar sut mae agweddau negyddol tuag at fathemateg yn cael effaith ar agweddau plant i fathemateg.
Gall rhieni cael effaith negyddol ar agweddau ei phlant, ac yna mae athrawon yn cael eu gadael i newid hyn yn wersi. Os mae rhieni yn siarad yn negyddol amdano fathemateg o amgylch ei phlant bydd y plant yn codi ar y meddyliau negyddol hyn, a bydd plant yn credu ei fod yn iawn i gael agwedd negyddol tuag at fathemateg oherwydd bod eu rhieni'n gwneud hynny. Mae rhieni yn fodel rôl ar gyfer ei phlant a'r gallu cael effaith fawr ar eu hagweddau tuag at addysg. Dyle rheini osgoi dweud pethau fel; "Doeddwn i byth yn dda at fathemateg” oherwydd bydd plant yn mynd a’r agweddau negyddol i mewn i ysgol yn wersi mathemateg.

Wrth gyfeirio at fathemateg, mae ymchwil yn awgrymu bod agweddau athrawon am fathemateg yn llunio eu hagweddau personol am addysg fathemateg a dysgu myfyrwyr (Cross 2009), sydd hefyd yn effeithio ar arferion addysgu yn y dosbarth. Mae Leung (1995) yn credu fod athrawon yn cael effaith mawr ar sut mae plant yn dysgu, mae’n meddwl os mae’r athro yn credu nad ydy’r plentyn yn cael y gallu deallusol neu sgiliau datrys problemau yna ni fyddant yn llwyddo i ddysgu mathemateg. Gall hyn cael effaith mawr ar hyder plant ac o ganlyniad cael effaith mawr ar agweddau plant tuag at fathemateg. Dyle athrawon cael agweddau positif wrth ddysgu plant ac i beidio â chategoreiddio plant yn eu gallu mathemateg.

Gall athrawon gwneud mathemateg yn hwyl i’r plant er mwyn iddyn nhw gael agwedd bositif iddo ac i edrych ymlaen at ddysgu’r pwnc. Gallant nhw ddefnyddio gwahanol gemau er mwyn ddenu plant i ymdrechu ateb cwestiynau mathemateg, fel enghraifft bingo, neu ddefnyddio technoleg i chwarae gwahanol gemau. Wrth ddefnyddio gemau ymarferol sydd yn debyg i fywyd dydd i ddydd gall plant gweld y pwysigrwydd o ddeall mathemateg, a hefyd bydd plant yn dysgu trwy fwynhau. Enghraifft o hyn yw gwahanu bwyd i chwarteri a hanner er mwyn dod yn gyfarwydd â ffracsiynau.

Os bydd athrawon yn dysgu sgiliau mathemateg a fydd yn cael eu defnyddio yn y dyfodol, na fydd plant yn teimlo bod mathemateg yn wastraff amser ac efallai y byddant yn dechrau cael diddordeb ynddo. Gall athrawon gofyn cwestiynau sydd yn y perthnasol i fywydau’r plant er mwyn iddyn nhw fwynhau ac eisiau dysgu. Yn lle ddysgu pynciau fel algebra, gallaf ddweud wrthych nad ydw i wedi ei ddefnyddio ers gadael ysgol. Os mae’r plant yn deall pam maent yn dysgu’r pwnc byddwn nhw yn dangos fwy o ddealltwriaeth am bwysigrwydd mathemateg.

Mae ymchwil wedi darganfod fod merched yn tueddu i gael agweddau mwy negyddol tuag at fathemateg na bechgyn. Darganfu hefyd fod ganddynt fwy o bryder tuag at fathemateg, mae agweddau negyddol yn effeithio ar eu perfformiad mathemateg, ac mae’r tebygolrwydd o gael gyrfa yn bwnc yn llai. (Gunderson, E.A et al 2012) Gall ysgolion ddod a thiwtoriaid mathemateg i gefnogi’r athrawon er mwyn codi safonau a gwella agweddau plant tuag at fathemateg. Wrth I’r plant cael fwy o gefnogaeth bydd eu hyder yn gwella ac o ganlyniad bydd plant yn ceisio ateb cwestiynau heriol.

I newid agweddau gall athrawon gwneud yn siŵr bod nhw yn bod yn gefnogol ac yn deal bod pob plant yn dysgu mewn cyflymder gwahanol. Mae ymchwilwyr yn credu fod agweddau athrawon yn cael dylanwadau agweddau mathemateg a datblygiad sgiliau mathemateg eu myfyrwyr. (Relich, 1994). Mae Relich (1995) hefyd yn credu dylai agweddau positif tuag at fathemateg fod yn nod pwysig yn addysg yr ysgol gynradd a'r athrawon. Mae’n bwysig nad ydy athrawon yn meddwl am ei atgofion negyddol personol o fathemateg, ac yn dysgu’r plant mewn agwedd bositif. Mae hyn yn bwysig oherwydd mae Ernest (1989) yn dadlau fod agweddau athrawon tuag at fathemateg yn effeithio ei brwdfrydedd a hyder wrth addysgu'r pwnc. Gall athrawon hefyd defnyddio gwahanol dechnegau ddysgu i helpu plant sydd yn dysgu mewn gwahanol ffurf. Hefyd gallant nhw ddefnyddio posteri neu arddangosfeydd wal i wneud mathemateg fod yn fwy diddorol.

Rwy’n credu os mae plant o amgylch amgylchedd gydag agweddau positif tuag at fathemateg bydd plant yn mwynhau dysgu’r pwnc ac eisiau dysgu mwy. Credaf pe bai gen i brofiad da wrth ddysgu mathemateg, byddwn i wedi bod yn gyffrous i ddysgu a chael gwell dealltwriaeth o'r pwnc.

Rhestr Gyfeirio

  • Amato, S.A., (2004). Improving Student Teachers' Attitudes to Mathematics. International Group for the Psychology of Mathematics Education.
  • Gunderson, E.A., Ramirez, G., Levine, S.C. and Beilock, S.L.,(2012). The role of parents and teachers in the development of gender-related math attitudes. Sex Roles, 66(3-4), pp.153-166.
  • https://www.youtube.com/watch?v=7snnRaC4t5c
  • Whitty, E. and Clarke, M., (2012). Irish mathematics teachers’ attitudes towards inclusion. European Journal of Special Needs Education, 27(2), pp.237-256.










Thursday, 8 February 2018

Pam fod darllen er mwyn pleser yn bwysig mewn addysg cynradd?



Wrth edrych nôl ar fy amser yn ysgol gynradd rwy'n cofio mwynhau darllen, ac yn teimlo roeddwn i yn dysgu llawer trwy ddarllen. Rydw i dal yn cofio y storion wnes i ddarllen yn ysgol gynradd a'r neges sydd yn dod gydag er mwyn paratoi'r plant i dyfu lan. Roeddwn i yn darllen yn gyson oherwydd roedd yn orfodol yn ystod amser darllen, ond byddwn i hefyd yn cael gwaith cartref i ddarllen llyfr. Rwy'n ansicr os roedd y strwythur hwn yn gweithio gyda phob plant, oherwydd na roedd yr athro yn gwneud yn siŵr roedd pob plentyn yn darllen y llyfr. Nad roedd pawb yn fy nosbarth yn mwynhau darllen, ac rwy’n creu gwnaeth hyn cael effaith ar ei ddatblygiad llythrennedd.

Wnaeth arolwg o blant ysgol ar gyfer ‘Diwrnod Llyfr Byd’ yn 2002 ddangos roedd bechgyn 15-16 blwydd oed yn gwario 2.3 awr yr wythnos yn darllen am bleser, i gymharu gyda’r 9 awr mae’r bechgyn yn gwario ar gemau cyfrifiadurol yr wythnos. Hefyd roedd y bechgyn yn gwylio 11 awr yr wythnos yn gwylio’r teledu. Ond roedd merched yn treulio fwy amser yn darllen am bleser, sef 4.5 awr yr wythnos. Mae’r canlyniadau hyn yn dangos faint mae technoleg yn cymryd dros fywydau plant, hefyd yn effeithio ei addysg. Ond ar nodyn positif roedd 81% o 11-12 blwydd oed a 76% o 14-16 blwydd oed yn dal darllen am bleser, ond mae’r ystadegyn yn lleihau wrth i’r plant mynd yn henaf, felly mae llai o ddarllen yn cael ei gwneud wrth iddyn nhw dyfu lan, (Clark, C. et al 2006).




Mae athrawon a rhieni yn cael trafferth i gael plant i fwynhau darllen, ac i gael yr eisiau i ddarllen. Os nad yw’r plentyn yn mwynhau darllen mae’n debygol i fod oherwydd nad ydy’r plentyn yn deall ac felly ddim eisiau mynd trwyddo’r siom o beidio deall. Mae’n bwysig i’r athrawon a rhieni i gefnogi’r plentyn er mwyn rhoi’r hyder wrth ddarllen. Mae’r fideo canlynol yn dangos hyn mewn mwy o ddyfnder.

Mae rhieni yn defnyddio gwahanol strwythur er mwyn helpu’r ddysgu sut i ddarllen, ac o ganlyniad fydd y plentyn yn cael pleser wrth ddarllen. Maent yn darllen gyda’r plentyn ac yn cymryd mewn tro i ddarllen, mae hyn yn golygu bydd yn blentyn yn gwrando ar y geiriau a dechrau dysgu’r ystyr tu ôl iddo, ac yna bydd y plentyn yn cael tro ei hun. Mae athrawon hefyd yn defnyddio storion hwyl sydd yn denu’r plentyn er mwyn ddenu nhw i edrych ymlaen at ddarllen. Mae yna filoedd o lyfrau i blant ddarllen, gyda gwahanol gategorïau er mwyn ddenu pob plentyn. Wrth gael profiad yn ysgol gynradd wnes i weld plentyn yn ddewis darllen yn lle chwarae gyda theganau, wrth ofyn pam wnaeth y plentyn ddweud “oherwydd dwi'n hoffi dawnsio ac mae'r llyfr hwn amdano ddawnsio.” Wnaeth hyn ddangos i mi sut gall darllen ddenu fwy o blant os rydym nhw yn darllen amdano dopig maent yn hoffi.


Wrth i’r plentyn cael pleser wrth ddarllen mae’n rhoi sgil hanfodol yn fywyd, sydd i’r gallu i ddarllen ac yn paratoi nhw amdano addysg bellach sydd yn dilyn ar gyfer cael swydd yn y dyfodol. Does dim un dydd yn mynd heibio heb i mi ddarllen ar un adeg o’r dydd, mae’n sgil allweddol iawn, ac rydym yn ei gymryd yn ganiataol. Mae’r sgil newydd yna yn rhoi’r cyfle i’r plentyn cael ystod eang o wybodaeth o wahanol lyfrau, rhai ffeithiol neu ffuglen.




Rhestr Gyfeirio

  • Clark, C. and Rumbold, K., (2006). Reading for Pleasure: A Research Overview. National Literacy Trust.
  • https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/284286/reading_for_pleasure.pdf




Wednesday, 7 February 2018

Gall athrawon eu chyfnewid gyda technoleg yn y dyfodol?


“Contemporary education is outdated; social media now demands a shift from ‘sit down and be told’ to a culture of ‘making and doing’. The fact giving instructor is no longer required in the classroom.” (Gauntlett, 2008)

Mae technoleg yn cymryd dros y byd, ac mae llawer o pobl yn becso amdano ei swydd wrth i 15 miliwn o swyddi yn cael ei dan fygythiad gan dechnoleg. (Purewal 2016) Wrth I technoleg  ddod mor deallus mae’n gallu gwneud tasgau cymleth roedd ddim ond pobl yn galli gwneud. O canlyniad nad yw cyflogwyr eisiau gwario arian yn hyfforddi pobl I gwneud y swydd, felly mae'n arbed y cyflogwyr llawer o arian I cael robotiaid yn ei lle. Bydd hyn yn cael effaith mawr ar dyfodol y byd. Gall cyfrifiaduron symud ymlaen yn y dyfodol i robotiaid anhygoel a allai gymryd rôl athrawon mewn lleoliad ysgol.

Mae yna llawer o fideos addysgol ar ‘Youtube’ felly mae pobl yn dadlau bod plant yn gallu ddysgu o fideos tiwtorio ar-lein yn lle myn I ysgol. Gall hyn fod yn ffordd effeithiol o ddysgu plant sydd ddim yn cael mynediad I ysgol neu angen tiwtorio ychwanegol ond nid yw rhieni yn gallu fforddio tiwtor. Ond os oes gan myfyriwr cwestiwn am wers, ni all fideo roi ateb iddi. Ac rwy'n cofio effaith wnaeth athro da cael ar fy ddysgu a sut wnaeth hyn effeithio fy mywyd, a na fydd ‘Youtube’ byth ddisodli hynny.

Commentators argue that digital technology offers fundamental threat to the role of the teacher. (Selwyn, 2011, p.119)

Wnaeth ‘Hole in the wall project’ (Mitra, 2005) yn Kalkaji, New Delhi rhoi cyfrifiadur yn wall o fewn y slwm. Wnaethon nhw asesu sut roedd y plant yn ymddwyn tuag at electronig help cael ei ddysgu sut I defnyddio. Ar y cyfrifiadur roedd wahanol gemau addysgol. Dros amser wnaeth y plant ddysgu ei hunain sut I defnyddio’r cyfrifiadur a ddysgu wahanol wybodaeth o fewn ddyfais. Gall hyn cefnogi bod plant yn gallu ddysgu heb athrawon, ac o canlyniad nad yw plant yn gallu ddysgu o technoleg. Mae’r fideo canlynol yn ddangos yr effaith mae technoleg yn cael ar plant o llefydd tlawd, nad oes angen athrawon ar y plant I ddysgu wahnaol sgiliau newydd. Mae’r plant yn cael mynediad I’r cyfrifiadur ar unrhyw adeg, felly mae’r ddysgu yn fwy hyblyg I’r plant ac yn rhoi fwy cyfleuoedd.

Ar y llaw arall, efallai bydd y syniad o dechnoleg cymryd dros athrawon yn amhosibl oherwydd y cost. Mae athrawon yn cael cyflog cyfartalog o £22,917 y blwyddyn, sydd yn llawer llai I cymharu ar y pris bydd yn costi I cael robotiaid yn lle athrawon. Mae robotiaid angen trydan i'w rhedeg, felly bydd costau rhedeg y robotiaid yn ddrud iawn i'r ysgolion. Os oes gwall trydanol gyda'r robot, bydd yn ddrud i'w atgyweirio a bydd hyn yn cael effaith ar addysg y plant oherwydd byddwn nhw yn colli gwersi a fydd yn effeithio ar eu datblygiad.

Hefyd nid yw robotiaid yn ddynol, ac felly ddim yn cael emosiynau. Bydd y robot ddim yn empatheiddio a deall ffordd gall plant teimlo wrth ymdrechu gwneud y gwaith. Ni fydd robotiaid yn gallu sylweddoli os roedd plentyn yn cael trafferth gyda pwnc a sut I helpu, neu os roedd plentyn yn cam ymddwyn o fewn y dosbarth nah fydd y robot yn cael rheolaeth ohonno. Os roedd plant yn ymddwyn yn anarferol na fydd y robots yn gallu meddwl os oes materion personol ganddo ac I fod yn rhywyn I trafod problemau gyda. Ni all robotiaid weithredu fel modelau rôl i'w myfyrwyr, sy'n ffactor pwysig o fewn lleoliad ysgol. (Soffar 2016)


Rhestr Gyfeirio










Beth yw ystyr pharamedrau e-diogelwch?



Mae plant yn gwario bron naw awr ar y we pob dydd. Mae hyn yn ystadegyn syfrdanol ond i mi nad ydy'n sioc oherwydd mae'r we yn bobman. Mae yna lawer o wahanol lwyfannau cyfryngau cymdeithasol mae plant yn cael mynediad i am ddim, ac yn fy marn i nad yw'n anodd cael cyfrif hyd yn oed pan fyddwch dan oed. Ac o ganlyniad dyna pam mae'n bwysig iawn i wneud yn siŵr bod plant yn ymwybodol o'r peryglon o'r we. Mae'r fideo canlynol yn dangos y pwysigrwydd o fod yn ddiogel ar y we, a chael gosodiadau preifatrwydd cywir. Mae'r fideo yn pwysleisio pwysigrwydd o gael gosodiadau preifatrwydd cywir ac i beidio â chredu popeth a welwch. Mae’r fideo hefyd yn dangos y fath o bobl gall fod ar-lein, a'r gallu cysylltu efo chi os nad ydych chi yn cael y gosodiadau preifatrwydd cywir. Yn ôl yr NSPCC roedd yna 2,132 o sesiynau cynghori gyda phlant ifanc yn trafod cam-fanteisio’n rhywiol blant ar-lein yn 2017. Mae’r ystadegyn hyn wedi cynyddu 44% ers y flwyddyn ddiwethaf.


‘ E-safety refers to the way young people are taught about risks online, how they can protect themselves and to whom they should report worrying activity’ (Barnard-Wills, 2012, p. 240).



Yn y seminar wnaethon ni hefyd son am bobl yn creu proffil ffug er mwyn edrych am fwy o ffrindiau neu i gael perthynas. Mae hyn yn beryglus oherwydd mae pobl ifanc yn credu mae’r bobl yn rhywun maent yn gwybod. Mae hyn yn gadael plant i gredu eu bod wedi gwneud ffrindiau newydd, ond y gwir realiti yw y gallent fod mewn perygl.




Yn seminar wnaethon ni edrych ar e-ddiogelwch ac yn grwpiau roedd rhaid i ni greu pwynt pŵer i ddangos beth yw seiber fwlio a beth i wneud os rydych chi’n credu mae’n digwydd i chi. Mae gan lawer o wefannau cyfryngau cymdeithasol polisïau fwlio er mwyn ddiogelu ei ddefnyddwyr. Enghraifft wnaethon ni defnyddio roedd Instagram, mae llawer o blant yn rhannu lluniau i ffrindiau yn ysgol, ond efallai nad ydy pawb yn ei ysgol yn cytuno gyda’r llun ac o ganlyniad gall plant eraill rhoi sylwadau ar y llun, a gall hyn troi i mewn i fwlio. Mae ‘instagram’ yn cael yr ystadegau gweithiaf o’r cyfryngau cymdeithasol gyda 42% o blant yn cael ei fwlio arno. Yn yr arolwg mae’r plant hefyd yn dweud nad ydy’r llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn gwneud ddigon i leihau seiberfwlio. Mae un yn pob tri o blant yn cael ei fwlio ar-lein.

Mae plant hefyd yn cael y cyfle i siarad gyda phobl nad ydynt yn gwybod ar ‘Xbox live’. Mae pobl ar draws y byd yn gallu mynd ar y gêm, mae hyn yn ddiddorol wrth i bobl ifanc cael mynediad i gael pobl o wahanol gymdeithasau, ond gall hefyd fod yn beryglus iawn. Mae pobl yn creu cymeriad gan ddefnyddio enw defnyddiwr, hwn yw’r unrhyw wybodaeth gall pobl gweld amdano, mae hyn yn helpu cadw eich hun un saf, ond ar yr ochr arall nad ydych chi’n cael y cyfle i weld os rydych yn adnabod y person sydd eisiau gem efo chi. Mae Xbox yn rhoi polisïau diogelwch er mwyn helpu cad plant yn ddiogel wrth ddefnyddio. Gall rhieni i blentyn cael mynediad i’r gosodiadau preifatrwydd er mwyn newid nhw i’r gosodiad maent yn credu sy'n briodol.
Mae ysgolion hefyd yn trio cadw plant yn saff ar y we wrth i dechnoleg bod yn rhan fawr mewn addysg plant. Mae’r cyngor yn lleihau mynediad i wefannau cyfryngau cymdeithasol a hefyd rhai maen nhw’n credu sydd yn beryglus. Felly wrth i blant mynd ar y we i ymchwilio am wybodaeth ar dasg gall colli allan ar rhai gwybodaeth oherwydd nad dydy’n cael mynediad i’r wefan. Mae hyn yn gwneud i’r rhieni teimlo well am ei phlant fod ar y we oherwydd mae’r plant yn cael cyfyngedig ar y we.


Er bod hyn yn cadw’r plant yn saff, rydyn nhw dal ddim yn ymwybodol o beth yw’r peryglon o fod ar y we. Felly dyle ysgolion sicrhau eu bod yn addysgu eu disgyblion am ddiogelu ar-lein. Rydw i’n credu dyle plant cael ei addysgwyd yn e-ddiogelwch, ac i fod yn ymwybodol o'r peryglon, yn hytrach na'u cuddio oddi wrth y plant.

“Such open online access if you simply block and use strict filters learners will only experience sanitised version of the internet. You could be putting children at a greater risk.”
(Savage and Barnett, 2015)


Rhestr Gyfeirio



Sut gall athrawon defnyddio technoleg yn effeithiol mewn dosbarth cynradd?



Mae curriculum newydd Donaldson yn cyflwyno sut bydd technoleg yn cael ei defnyddio yn ysgolion cynradd. Bydd myfyrwyr yn dysgu sgiliau TGCh allweddol trwy wneud tasgau gan ddefnyddio technoleg. Y nod yw gwella gwybodaeth ddigidol plant er mwy paratoi ar gyfer defnyddio technoleg yn y dyfodol. (Donaldson, G., 2015) Mae newidiadau tuag at y cwricwlwm yn newid gydag amser, yn 2015 wnaeth Donaldson rhoi curriculum newydd gyda chwe phrif faes mae rhaid i athrawon canolbwyntio arno wrth ddysgu, ac un o’r chwech yw technoleg. Gallwn weld yn barod mae technoleg yn cymryd drosodd o fewn pob agwedd yn ei bywydau. Felly o ganlyniad mae athrawon yn cael ei gorfodi i ddod â thechnoleg i mewn i bob gwers. Mae’n bwysig i athrawon i ddysgu sgiliau technolegol yn effeithiol ac yn plethu o fewn pob pwnc.

Mae ystod eang o gyfleoedd ar gyfer athrawon a thechnoleg yn yr ystafell ddosbarth.
Er enghraifft, mae'r canlynol yn syniadau o sut i ddod â thechnoleg i mewn i wersi.

·        Rhoi gweithgareddau ar-lein i blant sydd wedi cwblhau ei gwaith yn gynnar.

·        Sefydlu blogiau i’r plant i fod yn greadigol o fewn gwersi.

·        Defnyddio gwahanol wefannau i greu map meddwl o fewn grŵp.


 “Mae angen i blant a phobl ifanc ddysgu sut i fod yn fwy na defnyddwyr technoleg ac i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i ddefnyddio'r dechnoleg honno'n greadigol fel dysgwyr ac aelodau'r dyfodol o weithlu sy'n gymwys yn dechnegol.” (Donaldson, 2015, p. 8)

Yn ei seminarau wnaeth fy nhiwtor ddangos gwahanol apps gall athrawon defnyddio wrth fwyn defnyddio technology yn effeithiol yn y dosbarth. Enghraifft gyntaf wnaethon ni defnyddio oedd ‘garageband’, mae hyn yn ap sydd yn caniatáu plant i greu gwahanol gerddoriaeth o fewn yr ap. Gall athrawon defnyddio’r ap er mwyn gosod tasg cerddoriaeth, gallant nhw wedyn defnyddio’r gerddoriaeth i greu ffilm fach, mae’r ap yn cynnig gwahanol offerynnau sydd yn gallu cael ei addasu ar gyfer wahanol themâu. App wahanol gall athrawon rhoi i’r plant yw ‘video clip’, gall y plant rhoi gwahanol luniau at ei gilydd i greu fideo, ac yna gall y plant defnyddio'r gerddoriaeth wnaethon nhw greu yn ‘garageband’ a rhoi at ei gilydd. Mae Gardner a Davis (2013) yn disgrifio’r newid enfawr o fewn technoleg dros y blynyddoedd a sut mae pobl heddiw yn ‘cynhadledd ap’ wrth i bobl chwilio am ap sydd yn mynd i newid bywydau pobl wrth ddatrys ei phroblemau. Mae apps yn cael ei defnyddio gan ran fwyaf o bobl yn ddyddiol, felly mae’n syniad da i ddefnyddio’r apps er mwyn addysgu plant a pharatoi ar gyfer y dyfodol.

“The role of the Teacher will be forced to adapt and change due to technology but they will not be totally displaced.” (Prenksy, 2008) Mae technoleg yn cael effaith mawr ar fywyd pob dydd ac o ganlyniad yn effeithio ar ddysgu plant. Mae cwmnïau fel Google yn helpu cefnogi ysgolion o bob cefndir i gael addysg i dechnoleg. Mae’r fideo canlynol yn esiampl o sut mae google yn cael effaith arbennig ar dechnoleg yn ysgolion cynradd. <https://www.youtube.com/watch?v=3s3pyJtLFNI>

Mae Google yn darparu cyfleoedd i ysgolion difreintiedig trwy ariannu rhaglenni datblygiad proffesiynol, gall hyn creu effaith barhaol ar gyfer addysgwyr cyfrifiaduron, sydd yn gallu cael ei ddefnyddio trwy bob pwnc mewn lleoliad ysgol gynradd. Ar gyfartaledd mewn un flwyddyn mae un grant oddi wrth Google yn helpu pumdeg chwech o athrawon, a dros 1,500 o fyfyrwyr. 



“More than 65% of students will work in jobs that don’t even exist today. We want to help prepare them for that future by getting them excited about where computer science (CS) can take them.” – (Google for Education, 2018)

Mae ysgolion yn gallu cofrestru am ‘Google Apps’ sydd am ddim ac yn gallu bod yn bersonol ar gyfer pob unigolyn yn yr ysgol. Er bod google apps ar gyfer oedolion, mae'n helpu i roi dealltwriaeth i blant am ddiogelwch ar-lein ac yn eu paratoi ar gyfer technoleg yn y dyfodol. Mae’r plant yn cofrestru trwy greu e-bost ‘gmail’. Mae’r plant yn gallu creu gwahanol wefannau, creu dyddiaduron ac yn gallu cael mynediad i wahanol offer ysgrifennu. Er bod ‘Google apps’ ar gyfer oedolion gall athrawon bod yn ddewisol ar ba apps mae’r plant yn cael mynediad i. Felly ar draws yr ysgol mae gan wahanol flynyddoedd mynediad gwahanol i’r apps. Mae hyn yn gwneud yn siŵr bod google yn cael ei defnyddio trwy gydol ysgolion cynradd, mae’r plant hefyd yn edrych ymlaen at ddefnyddio ap gwahanol y flwyddyn nesaf.
Mae athrawon yn gallu defnyddio apps fel ‘Edmodo’ I osod gwaith cartref i’r disgyblion, ac mae'r rheini hefyd yn cael mynediad i’r gwaith sydd wedi cael ei osod, ac os mae ei phlentyn wedi cwblhau’r gwaith. Mae'n caniatáu i rieni ac athrawon fod mewn cysylltiad i'w gilydd i drafod cynnydd ac ymdrech y plentyn o fewn pob pwnc. Mae hyn yn galluogi mwy o drafodaeth a chefnogaeth i bawb sy'n ymwneud ag addysg y plentyn, yn hytrach na thrafod ychydig o weithiau dros y flwyddyn yn noson rieni. Ond ar yr ochr arall gall plant ac athrawon cael gormod o gysylltiad ac nid yw'r athrawon yn cael cyfle i wahanu gwaith o'u bywyd personol. Ond mae 74% o athrawon yn ddweud bod technoleg yn cymell plant i ddysgu. (PBS Survey Finds Teachers are Embracing Digital Resources to Propel Student Learning | PBS About, 2018) 

Mae athrawon yn gallu defnyddio technoleg i addasu ei ddysgu er mwyn cefnogi arddulliau dysgu gwahanol sydd gan bob disgybl. Gall hyn cael ei gwneud trwy ddefnyddio gliniaduron wrth i’r athrawon rhoi meddalwedd briodol sydd yn helpu'r plant wrth wneud y dasg. Mae athrawon yn defnyddio bwrdd gwyn rhyngweithiol i gael ymgysylltiad gan bob plentyn yn yr ystafell ddosbarth i sicrhau eu bod i gyd yn elwa o'r wers. (Savage, M., 2015)

“Realiti rhithwir yw'r 'ultimate empathy machine’. Mae'r profiadau hyn yn fwy na rhaglenni dogfen. Maent yn gyfleoedd i gerdded milltir mewn esgidiau rhywun arall.” (Milk 2018)

Mae athrawon yn gallu defnyddio realiti rhithwir yn effeithio er mwyn ddod a’r gwersi yn realiti. Gallant nhw gael ei defnyddio o fewn pob pwnc er mwyn ymgysylltu’r plant i’r wers ac i roi fwy o ddealltwriaeth iddyn nhw, ac o ganlyniad bydd y plant yn cael y mwyaf o’r gwersi. Hefyd os nad ydy’r ysgol yn caniatáu taith ysgol i'r plant, neu os yw'n amhosib i'r ysgol gyrraedd rhai cyrchfannau, nad ydy reality rhithwir yn eu cyfyngu, oherwydd gall y plant weld unrhyw ran o'r byd gyda chyffwrdd botwm. Mae’r fideo canlynol yn dangos y wahanol ffurf mae athrawon yn defnyddion reality rhithwir yn effeithiol o fewn y dosbarth.





Rhestr Gyfeirio

  • Donaldson, G., (2015). Successful futures: Independent review of curriculum and assessment arrangements in Wales. Welsh Government.
  • Films for the Earth. (2018). The most impressive 360° and VR films - Films for the Earth. [online] Available at: https://filmsfortheearth.org/en/themen/the-most-impressive-3600-and-vr-films
  • Gardner, H. and Davis, K., (2013). The app generation: How today's youth navigate identity, intimacy, and imagination in a digital world. Yale University Press.
  • Google for Education. (2018). Computer Science programs to support and encourage students | Google for Education. [online] Available at: https://edu.google.com/computer-science/?modal_active=none [Accessed 7 Apr. 2018].
  • Leopold, T.A., Ratcheva, V. and Sahiri, S., (2016), January. The future of jobs—Employment, skills and workforce strategy for the fourth industrial revolution, global challenge insight report. In World Economic Forum, Geneva.
  • PBS Survey Finds Teachers are Embracing Digital Resources to Propel Student Learning | PBS About. (2013). PBS Survey Finds Teachers are Embracing Digital Resources to Propel Student Learning | PBS About. [online] Available at: http://www.pbs.org/about/news/archive/2013/teacher-tech-survey
  • Prenksy, M. (2008). The Role of Technology in teaching and the classroom. Education Technology. 486.
  • Savage, M., (2015). Digital Literacy for Primary Teachers. Critical Publishing.



Monday, 5 February 2018

Beth yw manteision dweud stori mewn addysg cynradd?


Mae storion yn cael effaith mawr ar ddatblygiad plentyn trwy gydol eu hamser yn addysg gynradd. Mae’r storion yn rhoi’r cyfle i blant ddatblygu ei dealltwriaeth o’r wahanol gymdeithasau sydd o gwmpas nhw, ac i ddod yn gyfaredd gyda gwahanol draddodiadau sydd gan wahanol grefydd. Mae storion hefyd yn dysgu plant amdano’r bydysawd o'u hamgylch nhw, a sut i barchu e. Wrth i’r plant gwrando ar y storion mae’n rhoi sgiliau creadigol wrth iddyn nhw ddefnyddio ei dychymyg.
Cynnwys un seminar yn ddiwethaf roedd amdano sachau stori a sut maent yn cael ei defnyddio yn ysgolion. Wnaeth Neil Griffiths ddod lan gyda’r syniad o sach sydd yn cynnwys nwyddau sydd yn addas ar gyfer y llyfr sydd ynddo. Gall y nwyddau fod pypedau, CD, a gêm. Mae sachau stori yn rhoi cyfle i’r plant roi cynnig ar ddweud stori wrth ei ffrindiau, ac yn galluogi nhw i ddefnyddio ei chreadigrwydd wrth ddefnyddio’r nwyddau. Mae’r sachau stori yn rhoi cyfle i bob plant deall a mwynhau'r stori ac na fydd anabledd neu anawsterau dysgu cyfyngu nhw i ddeall y stori. Mae’r nwyddau yn cynhyrchu’r synhwyrau'r plentyn. Mae’r plant yn gallu gwrando ar y stori os mae’r plentyn yn cael trafferth gweld y stori. Mae’r sachau stori yn gallu cael ei ddweud mewn gwahanol ffurf er mwyn gwneud yn addas i’r plentyn.

Mae’r lluniau yn dangos esiampl o sach stori wnaethon ni edrych arno yn y seminar, rwy’n credu mae’r llyfrau yn cael effaith positif ar addysg y plant wrth iddyn nhw gael cyfle i weithio’n annibynnol. Mae’r athrawon hefyd yn defnyddio’r llyfrau er mwyn gwneud ei ddweud stori yn fwy diddorol.





Mae dweud stori yn gwella sgiliau gwrando'r plant wrth iddyn nhw ffocysu ar y stori er mwyn clywed beth sydd i ddod nesaf. Mae dweud stori yn cadw ymgysylltu o’r plant, weithiau gall athrawon lleihau ddweud diwedd y stori, ac fel tasg gall y plant ddod lan a diweddglo ei hun. Ar ôl i’r plant gwrando’r i’r stori mae’n annog trafodaeth rhwng y plant wrth iddyn nhw drafod os wnaethon nhw hoffi’r stori a pwy roedd ei hoff gymeriad.
Stories can be an invaluable tool for developing speaking and listening skills and as a stimulus for discussion or for philosophy and thinking skills. Stories can assist the development of social awareness and help children to build up an emotional vocabulary. History and geography, science, religious education and even maths can all come alive through stories.” (Jennifer M. Fox. 2005, p.10)
Mae plant yn cael gwahanol ffurf o ddysgu i’w gilydd, mae yna tri gwahanol ffurf; cinesthetig gweledol, clywedol. Mae dweud stori yn effeithiol iawn oherwydd mae’n galluogi i’r plant dysgu trwy un o’r tair ffurf. Gall yr athro gweithredu'r stori er mwyn i’r plant cinesthetig i ddeall a chofio’r stori. I’r plant sydd yn dysgu’n weledol gall yr athro defnyddio pypedau neu bosteri i ailadrodd y stori i’r plentyn. Ac yn olaf gall y plant ddysgu trwy wrando ar y stori sydd yn cael ei ddweud and yna trafod syniadau sydd ganddo.

Rhestr Gyfeirio
  • Eades, J., (2005). Classroom tales: Using storytelling to build emotional, social and academic skills across the primary curriculum. Jessica Kingsley Publishers.
  • https://www.brighthubeducation.com/teaching-methods-tips/128391-different-types-of-learning-styles/









Monday, 20 November 2017

Sut caiff llyfrau gyda lluniau eu defnyddio mewn addysg cynradd?


Rwy’n cytuno bod lluniau stori yn cael effaith mawr ar addysg plant. “Before they read words, children are reading pictures” Wiesner (1991). Rydw i’n cofio wrth fod yn ifanc byddwn yn ddewis y llyfrau efo lluniau oherwydd bod yn edrych yn ddiddorol ac yn arddyniadol. Mae hyn gwir gyda phlant heddiw, wrth i blant deall y stori trwy edrych ar y lluniau mae’n rhoi cyfleoedd i’r plant adnabod gwahanol liwiau, siapau ac anifeiliaid. Mae’r lluniau yn helpu’r plant ddod yn arfer i storion a ffordd maen nhw yn gweithio. Enghraifft o lyfr lluniau da yw ‘Spot’ gan Eric Hill, mae’r ci yn mynd ar wahanol anturiaethau ac mae’r plant yn dilyn y stori wrth ddysgu gwahanol bethau amdano’r byd. Mae’r fideo canlynol yn dangos sut bydd yr athro yn darllen y stori i’r dosbarth, a sut mae’r lluniau yn cael ei arddangos yn y llyfr.



Image result for welsh children's story books

Hefyd rwy’n credu mae’n helpu plant sydd yn cael trafferth ddarllen, ac yn lleihau’r cyfle i blant teimlo ynysig os nad ydyn nhw’n deall y stori. Wrth i rai plant cael anghenion dysgu neu yn cymryd fwy o amser iddyn nhw fod yn hyderus yn darllen y stori, mae’r stori efo lluniau yn helpu nhw ddatblygu ei sgiliau rhyngweithiol. Mae’r lluniau yna i helpu’r plant ddeall y stori, wrth i’r athro darllen y stori mae’r athro hefyd yn dangos y lluniau i’r plant. Mae’r llyfrau lluniau yn ychwanegol yn helpu plant byddar oherwydd nad ydyn nhw yn gallu clywed y geiriau ond dal yn gallu deall y stori wrth ddarllen trwy’r lluniau. Mae hyn yn galluogi'r plentyn i ddeall yn stori wrth roi llun yn ei phen i helpu nhw cofio’r stori.
Mae’r lluniau yn helpu annog y plant sydd yn cael anghenion i eisiau parhau darllen y llyfr oherwydd maent yn ddeall y stori fwy oherwydd y lluniau, ac yn mwynhau. Wrth i 65% o'r boblogaeth fod yn ddysgwyr gweledol, mae’n dangos bydd y plant yn fwy o debygol i gofio lluniau yn lle eiriau. Mae rhai pobl yn ddweud fod y llyfrau lluniau yn cyfyngu'r dychymyg, ond rwy’n credu mai yn helpu’r plant fod yn fwy disgrifid yn eu dychymyg a chael llun mwy clir. Hefyd fydd y plant yn defnyddio ei dychymig fwy wrth feddwl a diwedd gwahanol i’r llyfrau penagored. Mae’r fideo canlynol yn wahanol manteision o ddweud stori, a sut mae’n fwy na llyfr o luniau. 



Mae ysgolion cynradd yn defnyddio llyfrau efo lluniau i helpu plant ifanc ddechrau dod yn gyfaredd i wahanol storion ac i helpu nhw cofio a ddeall y stori. I ddeall stori o oedran ifanc rydw i yn credu mai yn broses efo wahanol gamau i gyrraedd cael sgiliau llythrennedd da. I ddechrau mae plant yn gwrando ar storion oddi wrth ei rhieni, mae hyn yn paratoi plentyn ar gyfer storion yn ysgol gynradd. Yna mae'r stori gyda lluniau yn helpu paratoi’r plant i ddarllen storion yn annibynnol. Mae straeon yn helpu i'r athrawon cysyllti gyda’r plant a chaniatáu i athro addysgu'r plant beth sydd yn y lluniau. Yna mae’r plant yn ymateb i’r lluniau trwy ofyn cwestiynau, sydd yn helpu gwella ei sgiliau cyfathrebu a chymdeithasu.  

Mae ysgolion cynradd hefyd yn darllen y llyfrau stori i’r plant ac yn cael y plant i ddefnyddio beth maent wedi dysgu er mwyn creu bwrdd stori. Wrth wneud bwrdd stori mae’r plant yn ailadrodd y stori, rhaid cofio’r wahanol gymeriadau ac yna ddarlunio'r stori o ei dychymig ei hun. Mae hyn yn gwella ei sgiliau cof a hefyd mae darlunio yn galluogi i'r plant fynegi ei hunain, yn enwedig pan maen nhw yn cael trafferth fynegi eu teimladau trwy eiriau. Wrth i’r plant ddarlunio mae’n helpu datblygu eu medrau mân, fel, gafael, chydlynu llygad, ac yn y hir dymor mae’n rhoi’r gallu i’r plant wella ei sgiliau ysgrifennu a darlunio. “The visual imagery that children acquire through drawing is vital to their later understanding of subjects such as geography and maths” Adams.
"The relationship between words and pictures here are often a tenuous and largely decorative one"
Salisbury, Styles (2012).

Rhestr Gyfeirio