Mae
plant yn gwario bron naw awr ar y we pob dydd. Mae hyn yn ystadegyn syfrdanol
ond i mi nad ydy'n sioc oherwydd mae'r we yn bobman. Mae yna lawer o wahanol
lwyfannau cyfryngau cymdeithasol mae plant yn cael mynediad i am ddim, ac yn fy
marn i nad yw'n anodd cael cyfrif hyd yn oed pan fyddwch dan oed. Ac o
ganlyniad dyna pam mae'n bwysig iawn i wneud yn siŵr bod plant yn ymwybodol o'r
peryglon o'r we. Mae'r fideo canlynol yn dangos y pwysigrwydd o fod yn ddiogel
ar y we, a chael gosodiadau preifatrwydd cywir. Mae'r fideo yn pwysleisio
pwysigrwydd o gael gosodiadau preifatrwydd cywir ac i beidio â chredu popeth a
welwch. Mae’r fideo hefyd yn dangos y fath o bobl gall fod ar-lein, a'r gallu
cysylltu efo chi os nad ydych chi yn cael y gosodiadau preifatrwydd cywir. Yn
ôl yr NSPCC roedd yna 2,132 o sesiynau cynghori gyda phlant ifanc yn trafod
cam-fanteisio’n rhywiol blant ar-lein yn 2017. Mae’r ystadegyn hyn wedi cynyddu
44% ers y flwyddyn ddiwethaf.
‘ E-safety refers to the way young people are taught about risks online, how they can protect themselves and to whom they should report worrying activity’ (Barnard-Wills, 2012, p. 240).
Yn
y seminar wnaethon ni hefyd son am bobl yn creu proffil ffug er mwyn edrych am
fwy o ffrindiau neu i gael perthynas. Mae hyn yn beryglus oherwydd mae pobl
ifanc yn credu mae’r bobl yn rhywun maent yn gwybod. Mae hyn yn gadael plant i
gredu eu bod wedi gwneud ffrindiau newydd, ond y gwir realiti yw y gallent fod
mewn perygl.

Yn
seminar wnaethon ni edrych ar e-ddiogelwch ac yn grwpiau roedd rhaid i ni greu
pwynt pŵer i ddangos beth yw seiber fwlio a beth i wneud os rydych chi’n credu
mae’n digwydd i chi. Mae gan lawer o wefannau cyfryngau cymdeithasol polisïau
fwlio er mwyn ddiogelu ei ddefnyddwyr. Enghraifft wnaethon ni defnyddio roedd
Instagram, mae llawer o blant yn rhannu lluniau i ffrindiau yn ysgol, ond
efallai nad ydy pawb yn ei ysgol yn cytuno gyda’r llun ac o ganlyniad gall
plant eraill rhoi sylwadau ar y llun, a gall hyn troi i mewn i fwlio. Mae
‘instagram’ yn cael yr ystadegau gweithiaf o’r cyfryngau cymdeithasol gyda 42%
o blant yn cael ei fwlio arno. Yn yr arolwg mae’r plant hefyd yn dweud nad
ydy’r llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn gwneud ddigon i leihau seiberfwlio.
Mae un yn pob tri o blant yn cael ei fwlio ar-lein.
Mae plant hefyd yn cael y cyfle i siarad gyda phobl nad ydynt yn
gwybod ar ‘Xbox live’. Mae pobl ar draws y byd yn gallu mynd ar y gêm, mae hyn
yn ddiddorol wrth i bobl ifanc cael mynediad i gael pobl o wahanol
gymdeithasau, ond gall hefyd fod yn beryglus iawn. Mae pobl yn creu cymeriad
gan ddefnyddio enw defnyddiwr, hwn yw’r unrhyw wybodaeth gall pobl gweld
amdano, mae hyn yn helpu cadw eich hun un saf, ond ar yr ochr arall nad ydych
chi’n cael y cyfle i weld os rydych yn adnabod y person sydd eisiau gem efo
chi. Mae Xbox yn rhoi polisïau diogelwch er mwyn helpu cad plant yn ddiogel
wrth ddefnyddio. Gall rhieni i blentyn cael mynediad i’r gosodiadau
preifatrwydd er mwyn newid nhw i’r gosodiad maent yn credu sy'n briodol.
Mae ysgolion hefyd yn trio cadw plant yn saff ar y we wrth i
dechnoleg bod yn rhan fawr mewn addysg plant. Mae’r cyngor yn lleihau mynediad
i wefannau cyfryngau cymdeithasol a hefyd rhai maen nhw’n credu sydd yn
beryglus. Felly wrth i blant mynd ar y we i ymchwilio am wybodaeth ar dasg gall
colli allan ar rhai gwybodaeth oherwydd nad dydy’n cael mynediad i’r wefan. Mae
hyn yn gwneud i’r rhieni teimlo well am ei phlant fod ar y we oherwydd mae’r
plant yn cael cyfyngedig ar y we.
Er
bod hyn yn cadw’r plant yn saff, rydyn nhw dal ddim yn ymwybodol o beth yw’r
peryglon o fod ar y we. Felly dyle ysgolion sicrhau eu bod yn addysgu eu
disgyblion am ddiogelu ar-lein. Rydw i’n credu dyle plant cael ei addysgwyd yn
e-ddiogelwch, ac i fod yn ymwybodol o'r peryglon, yn hytrach na'u cuddio oddi
wrth y plant.
“Such open online access if you simply block
and use strict filters learners will only experience sanitised version of the
internet. You could be putting children at a greater risk.”
(Savage and
Barnett, 2015)
Rhestr Gyfeirio
- Barnard-Wills, D., 2012. E-safety education: Young people, surveillance and responsibility. Criminology & Criminal Justice, 12(3), pp.239-255.
- McAfee survey of children and parents (2014)
- Savage, M. and Barnett, A. (2015) Digital Literacy for Primary Teachers. Critical Publishing: Glasgow.


Pan wnaethoch chi drafod yr ystadegyn gan yr NSPCC o '2,132 o sesiynau cynghori gyda phlant ifanc yn trafod cam fanteision rhywiol y plant ar-lein yn 2017, ac wedyn yn cynyddu 44% ers y flwyddyn ddiwethaf.' Mae hyn yn ystadegyn enfawr ac felly mae hyn yn dangos y pwysigrwydd o ddylai ysgolion pwysleisio ar hyn yn fwy o ddysgu plant o oedrannau ifanc am e-ddiogelwch, i rwystro digwyddiadau hyn digwydd yn fwy yn y dyfodol. Rydych yn sôn am yr ystyr o baramedrau e-ddiogelwch, ac yn trafod llawer o wybodaeth yn esbonio'r materion pwysig, ond os roeddech chi yn athrawes mewn ysgol gynradd, sut byddwch chi yn dysgu plant i gadw'n ddiogel wrth ddefnyddio'r rhyngrwyd?
ReplyDeletePwynt diddorol Derice. Wrth fod yn athrawes byddwn yn dangos peryglon y rhyngrwyd i blant, fel dangos y fideo yr wyf yn ei roi yn fy blog. Rwy'n credu trwy ddangos y peryglon iddyn nhw fydd yn gwneud y myfyriwr yn ymwybodol na allant ymddiried yn bopeth ar-lein. Byddwn hefyd yn gwneud tasgau ar y rhyngrwyd i brofi eu gwybodaeth am ddiogelwch ar-lein. Fel dosbarth, gallwn archwilio safleoedd a apps gyda'i gilydd fel y gallant ddweud y gwahaniaeth rhwng gwefannau diogel ac anniogel. Byddwn hefyd yn dangos y pwysigrwydd o stopio a meddwl 'SMART.' Mae'r wefan hon yn dangos beth yw SMART a sut mae'n ffordd effeithiol o gadw plant yn ddiogel ar-lein, mae'n werth ei ddarllen.
ReplyDeletehttp://www.kidsmart.org.uk/beingsmart/
Mae dy syniad o "gwneud tasgau fel dosbarth ar y rhyngrwyd i brofi eu gwybodaeth" yn dda oherwydd dwi'n meddwl bod plant yn dysgu oddi wrth brofiadau ymarferol, ac i gytuno gyda hyn mae UNICEF yn ei ddweud "Children learn by doing." (UNICEF, 2000) A bydd dull hyn o ddysgu yn sicrhau bod plant yn dysgu e-ddiogelwch a'r holl bethau a allai ddigwydd wrth ddefnyddio'r rhyngrwyd. Byddwn nhw wedyn yn gallu ymateb i unrhyw bethau drwg mewn yn y ffordd gywir. Dwi'n cofio dysgu am nodau SMART mewn ysgol gynradd hyd at ysgol uwchradd. A dwi dal yn cofio dysgu am hyn, sydd yn dangos faint oedd y poster hwn yn dylanwadu arnaf yn ei gofio drwy'r ysgol. Dwi'n gobeithio mae hyn yr un peth i'r plant sydd yn, neu wedi ei ddysgu o fewn ysgol wrth ddefnyddio'r rhwngrwyd.
Deletehttps://www.unicef.org/teachers/learner/exp.htm
DeleteMae hynny'n ddiddorol. Mae'r hyn a ddywedasoch yn dangos sut mae'n bwysig i blant ddysgu pethau allweddol gan y bydd yn aros gyda nhw yn y dyfodol. Diolch.
Delete