Monday, 20 November 2017

Sut caiff llyfrau gyda lluniau eu defnyddio mewn addysg cynradd?


Rwy’n cytuno bod lluniau stori yn cael effaith mawr ar addysg plant. “Before they read words, children are reading pictures” Wiesner (1991). Rydw i’n cofio wrth fod yn ifanc byddwn yn ddewis y llyfrau efo lluniau oherwydd bod yn edrych yn ddiddorol ac yn arddyniadol. Mae hyn gwir gyda phlant heddiw, wrth i blant deall y stori trwy edrych ar y lluniau mae’n rhoi cyfleoedd i’r plant adnabod gwahanol liwiau, siapau ac anifeiliaid. Mae’r lluniau yn helpu’r plant ddod yn arfer i storion a ffordd maen nhw yn gweithio. Enghraifft o lyfr lluniau da yw ‘Spot’ gan Eric Hill, mae’r ci yn mynd ar wahanol anturiaethau ac mae’r plant yn dilyn y stori wrth ddysgu gwahanol bethau amdano’r byd. Mae’r fideo canlynol yn dangos sut bydd yr athro yn darllen y stori i’r dosbarth, a sut mae’r lluniau yn cael ei arddangos yn y llyfr.



Image result for welsh children's story books

Hefyd rwy’n credu mae’n helpu plant sydd yn cael trafferth ddarllen, ac yn lleihau’r cyfle i blant teimlo ynysig os nad ydyn nhw’n deall y stori. Wrth i rai plant cael anghenion dysgu neu yn cymryd fwy o amser iddyn nhw fod yn hyderus yn darllen y stori, mae’r stori efo lluniau yn helpu nhw ddatblygu ei sgiliau rhyngweithiol. Mae’r lluniau yna i helpu’r plant ddeall y stori, wrth i’r athro darllen y stori mae’r athro hefyd yn dangos y lluniau i’r plant. Mae’r llyfrau lluniau yn ychwanegol yn helpu plant byddar oherwydd nad ydyn nhw yn gallu clywed y geiriau ond dal yn gallu deall y stori wrth ddarllen trwy’r lluniau. Mae hyn yn galluogi'r plentyn i ddeall yn stori wrth roi llun yn ei phen i helpu nhw cofio’r stori.
Mae’r lluniau yn helpu annog y plant sydd yn cael anghenion i eisiau parhau darllen y llyfr oherwydd maent yn ddeall y stori fwy oherwydd y lluniau, ac yn mwynhau. Wrth i 65% o'r boblogaeth fod yn ddysgwyr gweledol, mae’n dangos bydd y plant yn fwy o debygol i gofio lluniau yn lle eiriau. Mae rhai pobl yn ddweud fod y llyfrau lluniau yn cyfyngu'r dychymyg, ond rwy’n credu mai yn helpu’r plant fod yn fwy disgrifid yn eu dychymyg a chael llun mwy clir. Hefyd fydd y plant yn defnyddio ei dychymig fwy wrth feddwl a diwedd gwahanol i’r llyfrau penagored. Mae’r fideo canlynol yn wahanol manteision o ddweud stori, a sut mae’n fwy na llyfr o luniau. 



Mae ysgolion cynradd yn defnyddio llyfrau efo lluniau i helpu plant ifanc ddechrau dod yn gyfaredd i wahanol storion ac i helpu nhw cofio a ddeall y stori. I ddeall stori o oedran ifanc rydw i yn credu mai yn broses efo wahanol gamau i gyrraedd cael sgiliau llythrennedd da. I ddechrau mae plant yn gwrando ar storion oddi wrth ei rhieni, mae hyn yn paratoi plentyn ar gyfer storion yn ysgol gynradd. Yna mae'r stori gyda lluniau yn helpu paratoi’r plant i ddarllen storion yn annibynnol. Mae straeon yn helpu i'r athrawon cysyllti gyda’r plant a chaniatáu i athro addysgu'r plant beth sydd yn y lluniau. Yna mae’r plant yn ymateb i’r lluniau trwy ofyn cwestiynau, sydd yn helpu gwella ei sgiliau cyfathrebu a chymdeithasu.  

Mae ysgolion cynradd hefyd yn darllen y llyfrau stori i’r plant ac yn cael y plant i ddefnyddio beth maent wedi dysgu er mwyn creu bwrdd stori. Wrth wneud bwrdd stori mae’r plant yn ailadrodd y stori, rhaid cofio’r wahanol gymeriadau ac yna ddarlunio'r stori o ei dychymig ei hun. Mae hyn yn gwella ei sgiliau cof a hefyd mae darlunio yn galluogi i'r plant fynegi ei hunain, yn enwedig pan maen nhw yn cael trafferth fynegi eu teimladau trwy eiriau. Wrth i’r plant ddarlunio mae’n helpu datblygu eu medrau mân, fel, gafael, chydlynu llygad, ac yn y hir dymor mae’n rhoi’r gallu i’r plant wella ei sgiliau ysgrifennu a darlunio. “The visual imagery that children acquire through drawing is vital to their later understanding of subjects such as geography and maths” Adams.
"The relationship between words and pictures here are often a tenuous and largely decorative one"
Salisbury, Styles (2012).

Rhestr Gyfeirio
             


5 comments:

  1. Yn ystod ein seminar, wnaethon ni dysgu am 'Story Sacks' a pam maen nhw bwysig i ddatblygiad holistig y plant. Ac o fewn dy flog, wnaethoch chi drafod bod llyfrau gyda lluniau yn dda ar gyfer plant sydd yn cael trafferth gyda darllen neu gydag anghenion dysgu, felly sut bydd 'Story Sacks' yn fwy buddiol i'r plant yma? A wyt ti'n credu dylai pob ysgol gynradd cyflwyno 'Story Sacks' i'r plant?

    ReplyDelete
  2. Mae'r ‘Story Sacks’ yn ddefnyddiol i blant sy'n cael trafferth darllen oherwydd mae’r athro yn gallu defnyddio'r pypedau fel animeiddiad iddyn nhw wylio a gwrando ar y stori, felly nid oes angen darllen. Mae hyn yn rhoi cyfle i bob plentyn ddysgu a datblygu gyda'r plant eraill yn y dosbarth heb deimlo'n eithriedig. Mae'r sachau hefyd yn datblygu eu dychymyg a syniadau arall o adrodd straeon. Yn sicr, rwy'n credu y dylid defnyddio'r sachau stori ym mhob ysgol gan eu bod yn ffordd effeithiol o addysgu plant o bob gallu.

    ReplyDelete
    Replies
    1. Mae fideo isod yn werth gwylio. Mae'n dangos sut mae'r plant gydag anawsterau dysgu yn defnyddio 'Story Sacks' er mwyn cyfathrebu. Fyddwn nhw wedyn yn defnyddio technoleg sef yr Ipad i ail-gapio ar beth ddysgodd nhw o'r stori ac mae'r athrawon yna yn gallu ymgysylltu a oedden nhw yn deall y stori neu beidio, ac yn fy marn i, mae hyn yn ffordd wych o fonitro a'i dysgu cynnydd. Beth yw dy farn di wrth gwylio'r fideo yma?

      https://www.youtube.com/watch?v=4pncFAAyEt8

      Delete
    2. Mae'r plant yn cael cynnig amrywiaeth o wahanol ffyrdd o wrando a rhyngweithio gyda'r stori yn cael ei adrodd. Mae'r fideo yn dangos y plant yn defnyddio eu synhwyrau i ddeall y stori. Wnes i fwynhau'r fideo oherwydd mae’n ddiddorol iawn gan ei fod wedi rhoi llawer o syniadau i mi ar sut gallwn i ddefnyddio’r nwyddau gwahanol o fewn gwers yn y dyfodol. Mae'r dull hwn yn caniatáu i'r athro ddeall bod gan y plentyn ddealltwriaeth glir o'r stori.

      Delete
    3. Dwi'n cytuno, byddaf hefyd yn dechrau meddwl am ddefnyddio nwyddau gwahanol yma o fewn ysgolion cynradd yn y dyfodol, i allu helpu'r plant ifanc gydag unrhyw anawsterau dysgu. Mae dy flog wedi gwneud i fi feddwl am yr holl bosibiliadau yma byddaf yn ystyried hyn pan fyddaf yn dysgu. Diolch Grace!

      Delete