Saturday, 18 November 2017

Beth ddylai fod yn flaenoriaethau mewn addysg cynradd?


Rwy’n credu dyle’r flaenoriaeth mewn addysg gynradd fod ar wella safon ddysgu i blant er mwyn rhoi sgiliau bywyd iddyn nhw. Mae yn bwysig iawn i blant cael addysg dda a dangos dealltwriaeth glir yn fathemateg, Saesneg, a gwyddoniaeth wrth baratoi nhw ar gyfer ysgol uwchradd. Mae Donaldson yn ddweud fod yn gwricwlwm yn paratoi plant ar gyfer y dyfodol. “ Prepares pupils at the school for the opportunities, responsibilities and experiences of later life.” (Donaldson,2015, p.4). Ond sut byddwn nhw yn paratoi nhw ar gyfer bywyd go iawn? Efallai dylen nhw hefyd ffocysu ar ddysgu’r plant sgiliau bywyd, fel:

           Cymorth Cyntaf

           Sgiliau Ariannol

           Coginio

           Sgiliau Cymdeithasol


Mae’r dyfyniad yn y llun yn dangos y disgyniadau pobl ar y genhedlaeth nesaf, i addysgu'r plant i’r safon gorau posib er mwyn codi’r safon er lles y genedl. Wrth ddysgu’r plant sgiliau bywyd hanfodol mae’n galluogi’r plant i gael sgiliau cymdeithasu da, sydd yn rhoi cyfleoedd i'r plant yn y dyfodol o ran swyddi ac yn y gymdeithas. Dyma esiampl o fideo gall athrawon ddangos y plant yn ysgolion cynradd ar sgiliau cymdeithasol, ac yn gwthio nhw i'w defnyddio o gwmpas yr ysgol ac yna gwobrwyo sgiliau cymdeithasol dda.

Rwy’n credu ei fod yn bwysig iawn i ddangos plant y pwysigrwydd o gymorth cyntaf, a beth i wneud os mae damwain yn digwydd. Mae 59% o bobl yn y Deyrnas Unedig ddim yn teimlo’n hyderus i geisio achub bywyd. Hefyd mae 24% o bobl yn aros i ambiwlans i ddod, a ddim yn ceisio trio cymorth cyntaf ar yr unigolyn. Mae hyn yn sathredig annerbyniol ac mae yn hynod o bwysig i ysgolion cynradd ddysgu cymorth cyntaf i blant er mwyn i’r genhedlaeth nesaf fod yn ymwybodol i beth i’w wneud. http://www.thefirstaidzone.co.uk/first-aid-facts
Gall ysgolion ddangos fideo fel yr un canlynol, i roi gwybodaeth i’r plant ar beth i wneud, ac yn cael gwers ymarferol a chael y plant i drio allan y wahanol reolau cymorth cyntaf arno ei gilydd. Wrth i’r plant ymarfer hyn mae yn paratoi nhw os roedd rhywbeth yn digwydd yn y gymuned, ac o ganlyniad gall llawer o fywydau cael ei achub os byddwn yn rhoi’r wybodaeth i’r genedl nesaf.

Credaf fod yr iaith Gymraeg yn hynod o bwysig yn ysgolion cynradd oherwydd bydd y plant yn cadw'r iaith yn fwy, ac yn rhoi’r iaith i'r genhedlaeth nesaf. Mae’r iaith y gael ei cholli oherwydd mae llau o deuluoedd yn siarad Cymraeg felly nid yw’r plant yn ymarfer yr iaith Cymraeg. Nid yw’r plant yn cyfathrebu yng Nghymraeg felly mae’r iaith yn cael i golli o ganlyniad i’r iaith Saesneg. Mae’r iaith yn bwysig iawn i’r gymuned ac i gadw’r iaith yn gyrff rhwng pawb.
Rydw i yn credu dyle fe fod yn orfodol i bob ysgol gynradd fod yn Gymraeg ac i’r plant cyrraedd safon dda yn Gymraeg. Fydd hyn yn cynyddu’r nifer o bobl sydd yn siarad Cymraeg yn Gymru, ond hefyd mae yn helpu'r plant yn y dyfodol wrth i gyflogwyr edrych amdano bobl sydd yn siarad Cymraeg, ac weithiau yn cael ei thalu fwy.

Yn ôl Cyfrifiad 2011 gallwn weld mae gwahaniaeth mawr rhwng y rhaid sydd yn gallu siarad Cymraeg, a’r rhaid sydd methu. Mae bron 2 filiwn o bobl yn Gymru yn methu siarad Cymraeg, mae hyn yn wael iawn. Credaf dyle’r iaith Cymraeg fod y flaenoriaeth yn addysg gynradd yn Gymru er mwy cadw'r iaith yn fyw.

Gallu Siarad Cymraeg
Methu Siarad Cymraeg
Canran Gallu Siarad Cymraeg
562,016
2,393,825
19%







Hefyd rydw i’n credu mae’n bwysig i gael elfennau o addysg gorfforol yn ysgolion cynradd oherwydd mae’n hanfodol i’r plant cael dealltwriaeth o bwysigrwydd cadw’n heini, a beth gall digwydd os nad ydych yn cadw’n heini. Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru allan o 29,238 o blant roedd 26% gyda màs mynegai corff afiachus, a 11.3% yn ordew. Felly mae yn bwysig i ddysgu’r plant o oedran ifanc beth i wneud i gael ddechrau da yn ei bywydau wrth fod yn heini. Hefyd mae’n rhoi cyfleodd cymdeithasol i’r plant ymuno i glybiau lleol ac yna wrth gadw yn heini, maen nhw yn hefyd cael ffrindiau newydd.(Stats Wales 2011)
I helpu gwthio’r plant i gadw’n heini mae Cymdeithas Addysg Gorfforol yn rhoi gwobrwyon allan i’r ysgol sydd gyda’r safon orau o ffitrwydd. Yn 2016 wnaeth ysgol gynradd Tŷ Sign yng Nghaerffili ennill y wobr hon, rhesymau dros hyn yw’r ffaith mae’r ysgol yn dysgu’r plant sut i fesur ei pherfformiad, ac yna osod targedau yn annibynnol i'w hyn er mwyn wella. Mae’n bwysig cael cytbwys dda yn y cwricwlwm i addysg gorfforol.

Credaf fod yn bwysig ddysgu'r prif bynciau yn ysgolion cynradd, ond rwyf hefyd yn credu ei fod yn hanfodol i’r plant cael y cyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd sydd yn paratoi’r plant ar gyfer fod yn oedolyn.




Rhestr Gyfeirio

6 comments:

  1. Dwi'n cytuno dylai'r iaith Cymraeg fod yn flaenoriaeth mewn ysgolion cynradd oherwydd mae Donaldson yn nodi yn ei adolygiad o fewn 'Successful Futures' bod "the future of welsh and welsh culture is wholly dependent on transmitting the language to our young people." (Donaldson, 2015) Ac wrth wneud hyn, fydd yr iaith Cymraeg yn ei dyfu o fewn Cymru ymysg plant ifanc. Ond yn dy farn di, wyt ti'n credu bod y cwricwlwm newydd yng Nghymru yn fwy eang a chytbwys o ran dysgu sgiliau bywyd i gymharu gyda phynciau craidd? (Megis llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol.)

    ReplyDelete
    Replies
    1. Diolch am eich ymateb, fel cyd-siaradwr Cymraeg, rwy'n falch eich bod yn cytuno bod mwy angen cael ei gwneud mewn ysgolion cynradd i gadw'r iaith Gymraeg yn fyw. Rydym ni wedi elwa'n fawr o'r iaith, ac mae'n bwysig ein bod yn gadw'n fyw! Dydw i ddim yn credu bod yna gyfleoedd i blant ddysgu sgiliau bywyd yn yr ysgol. Doeddwn i ddim yn dysgu sgiliau bywyd ond roeddwn i eisiau oherwydd bydd yn baratoi mi ar gyfer y dyfodol. Yn dilyn ymchwil, canfu'r dyfyniad effeithiol hwn; “from childhood to adulthood by healthy development of social and emotional skills.” (Martin, 2014) Roedd y dyfyniad hwnnw'n cymryd o'r wefan ddefnyddiol hon sy'n werth i chi ddarllen.
      https://www.learningliftoff.com/the-importance-of-life-skills-based-education/

      Delete
    2. This comment has been removed by the author.

      Delete
    3. Oherwydd doeddet ti ddim wedi cael y profiad mewn ysgol gynradd i allu dysgu am sgiliau bywyd angenrheidiol am y dyfodol, os roeddet ti yn athrawes mewn ysgol gynradd, sut byddech chi yn newid hyn? A wnewch chi ddod â phobl o'r gweithle i drafod y canlynol; cymorth cyntaf, sgiliau ariannol, coginio, neu sgiliau cymdeithasol ar ddiwrnodau ABCH a wnewch chi drafod yn dy flog?

      Delete

    4. Ie byddwn yn cael gwersi bywyd yn ystod diwrnodau ABCh i roi profiad i'r plant ddysgu gan weithwyr proffesiynol. Byddwn hefyd yn dod â gwersi bywyd o fewn rhan fwyaf o fy ngwersi ac yn addasu'r tasgau i sicrhau eu bod hefyd yn dysgu'r sgiliau gwerthfawr hyn.

      Delete
  2. This comment has been removed by the author.

    ReplyDelete